Article

A ddylech gael Pŵer Atwrnai Cyffredinol ar gyfer eich busnes?

14th July 2020

Wrth i fwy a mwy o bobl ddechrau dychwelyd i’r gwaith ar ôl y cyfnod clo, mae’r risgiau o ddal Covid-19 neu orfod hunan-ynysu o ganlyniad i ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif, yn cynyddu.

Ar gyfer perchnogion busnes a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn busnes, mae hyn yn codi cwestiynau pwysig. Pe na fyddech yn medru mynd i’r swyddfa, a allai’r busnes gario ymlaen yn eich absenoldeb? A oes rhywun arall yn medru cael mynediad i’ch cyfrifon banc i dalu staff ac anfonebau? Mae’n hawdd gweld sut allai argyfwng iechyd droi’n argyfwng busnes yn sydyn iawn.

Dan yr amgylchiadau hyn, mae’n bosib mai Pŵer Atwrnai Cyffredinol yw’r ateb.

Beth yw Pŵer Atwrnai Cyffredinol?

Mae Pŵer Atwrnai Cyffredinol yn ddogfen gyfreithiol lle’r ydych yn penodi un person neu fwy i wneud penderfyniadau eiddo neu ariannol ar eich rhan.

Ni allwch ei ddefnyddio oni bai bod gennych y galluedd meddyliol i allu cyfarwyddo eich atwrnai penodedig i ymgymryd â gweithredoedd ar eich rhan. Gallwch gyfyngu’r Pŵer Atwrnai Cyffredinol i swyddogaethau penodol – digon i sicrhau bod eich busnes yn rhedeg yn llyfn yn eich absenoldeb.

Nid oes angen i’r ddogfen gael ei chofrestru fel y mae’n rhaid i Bŵer Atwrnai Arhosol cyn iddo gael ei ddefnyddio; golyga hyn y gellir defnyddio’r ddogfen cyn gynted ag y mae wedi’i llofnodi. Gallwch roi dyddiad gorffen ar y Pŵer Atwrnai neu, cyn y dyddiad hwn, gallwch ddirymu’r Pŵer Atwrnai yn benodol os nad oes ei angen bellach neu os ydych am newid y telerau.

Mae Pŵer Atwrnai Cyffredinol yn arf allweddol

Wrth i bobl ddechrau dychwelyd i’r gwaith yn barod, mae’n bwysig sicrhau bod gennych weithdrefnau ymarferol yn eu lle i ganiatáu i’ch busnes weithredu a masnachu pe byddech yn absennol dros dro. Mae Pwerau Atwrnai Cyffredinol yn arf allweddol wrth gyflawni hyn. Os hoffech drafod eich opsiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n tîm arbenigol.

Related Blogs

View All