Article

Cyfryngu yn ystod pandemig

19th October 2020

Mae disgwyl i’r llywodraeth gyflwyno nifer o ddiwygiadau sydd wedi’u cynllunio i leihau’r ôl-groniad o 45,000 o achosion yn system y tribiwnlys cyflogaeth.

Wrth i’r cynllun furlough ddod i ben ar ddiwrnod olaf y mis hwn, rhagwelir y bydd nifer hawliadau ar sail diswyddo yn ychwanegu yn sylweddol at yr ôl-groniad hwnnw.

Mae oedi sylweddol, ac yn ddealladwy felly, cyn y gall achosion sydd wedi eu rhestru yn y system yn barod gael eu penderfynu’n derfynol, er bod gwrandawiadau o bell sy’n defnyddio system fideo’r tribiwnlys ei hun, yn caniatáu cynnig gwrandawiadau cynharach.

Yn y pen draw, y barnwr sydd i benderfynu, ar ôl gwrando ar sylwadau gan y ddwy ochr, a ddylai’r gwrandawiad fod “yn bersonol” neu o bell.

O fewn y cyd-destun hwnnw a’r oedi anochel ond dealladwy, dyma’r amser delfrydol felly i ystyried dulliau amgen o ddatrys anghydfodau cyflogaeth.

Mae budd amlwg o ddod â chanolwr i mewn i’r broses, yn enwedig mewn anghydfod cyflogaeth a gweithle; gallai fod o ddefnydd ar yr adeg yma yn benodol wrth ddatrys anghydfodau gan fod amser y llys dan gymaint o bwysau. Mae’n gyflym, yn gost-effeithiol ac yn gyfrinachol.

Mae ‘cyfryngu gweithle’ yn cyfeirio at anghydfod pan mae cyflogwr a chyflogai  yn parhau i fod mewn perthynas gytundebol; mae ‘cyfryngu cyflogaeth’ yn cyfeirio at sefyllfa ble mae’r berthynas gyflogaeth wedi torri i lawr.

P’un a yw’r anghydfod ar ei ffordd i’r tribiwnlys cyflogaeth neu’r llys sirol, neu os yw’r achos eisoes wedi cychwyn yn y naill awdurdodaeth neu’r llall, dylai cyfryngu bob amser gael ei ystyried; mae llysoedd a thribiwnlysoedd yn disgwyl iddo gael ei ystyried neu o leiaf ei geisio.

Mae’n ofynnol i’r rhai sy’n cychwyn achos yn y llys sifil i hysbysu’r llys ar y dechrau os oes dull amgen o geisio datrys yr anghydfod yn cael ei ystyried, ac yn benodol cyfryngu. Os bydd y naill barti neu’r llall wedyn yn gwrthod ystyried cyfryngu yn y llys sirol, mae’n ofynnol iddynt ddarparu datganiad tyst yn egluro pam eu bod yn anfodlon rhoi cynnig ar hyn.

Gall y rhai hynny sy’n gwrthod cyfryngu yn afresymol ddioddef yn hwyrach yn y broses, pan ddaw costau yn gysylltiedig â dyfarniad llys.

Mewn tribiwnlys cyflogaeth, gofynnir i’r partïon, ar y cam priodol, a ydynt yn barod i ystyried cyfryngu barnwrol. Fodd bynnag, dim ond mewn rhai amgylchiadau diffiniedig y mae hynny ar gael ac fel rheol rhaid i hyn gynnwys honiadau o wahaniaethu neu chwythu’r chwiban.

Yn y naill awdurdodaeth neu’r llall, mae gan y llys a’r tribiwnlys bwerau cyfyngedig, ac ni allant bob amser gyrraedd y math o ganlyniad sy’n cael ei ddymuno gan y rheiny sy’n rhan o’r broses. Er enghraifft, dim ond iawndal y gall tribiwnlys cyflogaeth ei ddyfarnu, neu fe all ei gwneud yn ofynnol i ail gyflogi person ac mewn perthynas â materion gwahaniaethu, wneud argymhellion.

Dyma ble gall cyfryngu llwyddiannus gan ganolwr annibynnol wedi ei gymhwyso, helpu’r rhai sy’n rhan o’r achos.

Os ydych yn chwilio am ganlyniad na all tribiwnlys ei gyflawni – megis darparu geirda, cyhoeddiad wedi ei gytuno arno i staff a sefydliadau allanol o’r rhesymau dros ymadawiad gweithiwr, cymalau cyfrinachedd a chytundebau i beidio â gwneud sylwadau dilornus am ei gilydd – gall cyfryngu gynnig hyblygrwydd ar gyfer y dibenion hyn.

Mae’r ffaith hefyd bod achosion llys a thribiwnlys yn agored i’r cyhoedd yn ystyriaeth bwysig, tra bod cyfryngu yn broses gwbl gyfrinachol a chydsyniol.

Roedd llysoedd a thribiwnlysoedd eisoes yn ddioddef ôl-groniad sylweddol hyd yn oed cyn y pandemig. Pan ddaeth cyfyngiadau cyfnod clo i rym, cafodd unrhyw achos oedd wedi ei restru ar gyfer gwrandawiad tribiwnlys cyflogaeth cyn 26 Mehefin ei drosglwyddo i wrandawiad cyfarwyddo (gwrandawiad gweithdrefnol) ac ni allai fynd ymlaen fel gwrandawiad terfynol. Felly, roedd sgil effaith ar ôl i’r cyfyngiadau newid yn siwr o ddigwydd.

Mae manteision cyfryngu yn cynnwys;

  • Cyfrinachedd
  • Cyflymdra. Os yw’r partïon yn cytuno y dylid cyfeirio unrhyw anghydfod at gyfryngu ac at ganolwr, gan gymryd ei bod yn debygol na all naill barti na’r llall ddadlau’n na fyddant ar gael am sawl wythnos i gymryd rhan yn y cyfryngu, gall y broses wedyn symud ymlaen yn gyflym.
  • Sicrwydd mewn adeg ansicr iawn i fusnesau – mae sefyllfa ariannol yr hawlydd a’r diffynnydd/ ymatebydd yn debygol o fod yn ansicr iawn am yr ychydig fisoedd nesaf o leiaf. Felly efallai y bydd yr hawlydd yn awyddus i ddatrys yr anghydfod yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Wrth gwrs, mae risg bob amser na fydd y diffynnydd yn gallu parhau i fasnachu.
  • Cost-effeithiolrwydd – nid oes llawer o oedi ac nid yw costau teithio nac amser yn broblem. Mae’n bosib trefnu cyfryngu o bell gan unrhyw un o’r platfformau sydd wedi eu cydnabod ac mae profiad diweddar yn dangos y gall y cyfryngu fod yn hynod effeithiol.

Related Blogs

View All