Article

Cynllunio ymlaen llaw drwy gyfrwng y Gymraeg

14th August 2020

Sgwrsio â theulu a ffrindiau, archebu paned o de mewn caffi neu drafod materion pwysig bywyd – yn gyffredinol, rydym yn fwy cyfforddus yn gwneud y rhain i gyd yn ein hieithoedd brodorol, beth bynnag y bônt.

Nid yw gwneud ewyllysiau a phŵer atwrnai yn eithriad, a dyna pam bod ein tîm Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau yng Nghaerdydd yn falch o allu cynnig y gwasanaethau hyn i’n cleientiaid Cymraeg eu hiaith drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn.

Mae Nerys Thomas, Cyfreithwraig Cysylltiol sy’n arbenigo mewn Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau wedi ymuno â’r tîm yng Nghaerdydd yn ddiweddar, wedi treulio’r chwe mlynedd diwethaf yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerwrangon. Yn rhugl ei Chymraeg wedi’i geni a’i magu yn Sir Gâr, mae Nerys yn hapus i gynnal cyfarfodydd a chysylltu â chleientiaid yn Gymraeg.

Yn ogystal â chyfathrebu â chleientiaid yn Gymraeg, gallwn bellach gynnig drafftio ewyllysiau, pwerau atwrnai a cheisiadau profiant yn Gymraeg yn unol â dymuniadau cleientiaid. Gallwn ymdrin â materion eraill megis cynllunio treth etifeddiaeth, creu a gweinyddu ymddiriedolaethau a materion galluedd meddyliol drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd.

I’r cleientiaid hynny sy’n dymuno trafod eu materion yn Gymraeg, ond y byddai’n well ganddynt i’w dogfennau gael eu drafftio yn Saesneg fel bod aelodau di-Gymraeg y teulu yn eu deall hefyd, dyweder, gallwn ymdrin ag anghenion unigol pob cleient fel y dymunant, wrth gwrs.

Meddai Nerys “Wedi gweithio y tu allan i Gymru ers sawl blwyddyn, mae’n wych bod yn ôl adref lle gallaf rannu fy arbenigedd gan ddefnyddio fy mamiaith. Yn aml, mae meddwl am drafod ewyllysiau a beth fydd yn digwydd os byddent yn sâl neu’n marw yn codi ofn ar unigolion a theuluoedd, er gwaetha’r ffaith mai’r sgyrsiau yma yw rhai o’r rhai pwysicaf a gawn ni fyth. Gobeithio, drwy gynnig y gwasanaethau hyn yn Gymraeg i gleientiaid Cymraeg eu hiaith, bydd yn annog mwy o bobl i weithredu ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Related Blogs

View All