fbpx
HCR Law Events

14 July 2020

Ffatrïoedd prosesu cig yn ganolfannau heintiad – beth sy’n cael ei wneud a beth sydd angen ei wneud?

Bydd nifer ohonom wedi gweld adroddiadau am y cannoedd o weithwyr sydd wedi profi’n bositif am coronafeirws mewn ffatrïoedd prosesu cig a lladd-dai.

Mae clystyrau o heintiad wedi codi ledled y byd, yn cynnwys yr Almaen, Ffrainc, Sbaen a’r Unol Daleithiau ac yn agosach at adref, ym Môn, Wrecsam, Merthyr Tudful a Swydd Efrog.

Pam fod ffatrïoedd prosesu cig a lladd-dai yn gweld lefelau mor uchel o heintiad?

Mae nifer o wyddonwyr ac arbenigwyr yn y maes wedi nodi bod ffatrïoedd yn cynnig yr amgylchedd perffaith i’r feirws ledaenu ac aros o gwmpas. Maen nhw’n ardaloedd tu mewn sy’n oer ac yn llaith heb olau naturiol. Mae gweithleoedd sydd wedi’u rheweiddio hefyd yn swnllyd, sy’n golygu bod pobl yn gorfod siarad yn uchel neu weiddi – credir bod enghreifftiau o bobl yn tynnu eu mygydau i helpu gyda chyfathrebu, gan gynyddu lledaeniad defnynnau, yn gyffredin. Ymhellach, mae llinellau cynhyrchu sy’n symud yn gyflym yn peri problemau penodol wrth geisio cadw pellter cymdeithasol a chadw dau fetr ar wahân. Mae gweithwyr wedi adrodd yn y wasg, yn ddi-enw, bod cadw pellter cymdeithasol yn yr amgylcheddau hyn yn amhosib.

Mae’r sefyllfa’n cael ei gwaethygu gan y ffaith fod gan nifer o ffatrïoedd a lladd-dai staff o Ddwyrain Ewrop nad ydynt wedi cael hyfforddiant digonol ac sydd heb sgiliau iaith da.

Yn ogystal, nid oes gan niferoedd mawr hawl i dâl salwch llawn, felly gallant golli tâl os ydynt yn hunan-ynysu ar ôl bod yn sâl. Yn wir, mae’r pryder hwn wedi’i adrodd gan weithwyr yn Rowan Foods, Wrecsam.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau busnesau

Mae gan fusnesau nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau i gymryd pob cam rhesymol ymarferol i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant eu gweithwyr. Mae hyn wedi’i amlinellu dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a dan reoliadau eraill megis Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Rheoliadau Chyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992. Yng Nghymru, mae gan fusnesau ddyletswydd statudol dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i gymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o ddau fetr rhwng pobl ar eiddo.

Canllawiau ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu bwyd yn gweithio yn ystod pandemig Covid-19

Mae canllawiau wedi’u cynhyrchu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) i helpu busnesau a staff i weithio’n ddiogel yn y sector gweithgynhyrchu bwyd yn ystod pandemig Covid-19. Mae’n canolbwyntio ar y prosesau a’r gofynion hylendid y mae’n rhaid i chi eu dilyn i barhau i weithredu eich busnes yn ddiogel. Dylid darllen y canllawiau ar y cyd â chyngor ehangach gan y Llywodraeth ar Covid-19 fel y gallwch ddeall y fframwaith ymarferol sydd ei angen i adnabod a gwarchod yn erbyn risgiau.

Yr hyn sy’n ganolog ac yn hanfodol i’r dull o warchod gweithwyr a hyrwyddo amgylchedd gwaith iach yw’r angen i ymgymryd ag asesiad risg Covid-19 penodol gan ddefnyddio canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol i hysbysu penderfyniadau a mesurau rheoli.

Bydd angen i’r camau sydd angen eu cymryd i warchod yn erbyn risgiau Covid-19 weithio law yn llaw â systemau rheoli diogelwch bwyd presennol.

Yng nghyd-destun asesiadau risg, dywed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bod rhaid i chi:

  • adnabod pa weithgaredd neu sefyllfaoedd gwaith a allai achosi i’r feirws ledaenu;
  • meddwl am bwy allai fod mewn risg;
  • penderfynu pa mor debygol ydy hi y gallai rhywun fod yn agored i’r feirws;
  • gweithredu i waredu’r gweithgaredd neu’r sefyllfa, neu os nad yw hyn yn bosib, rheoli’r risg.

Yn ogystal, mae Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain (BMPA) wedi cyhoeddi canllawiau, yn cynnwys glanhau ffatrïoedd yn amlach nag arfer, ynysu staff sy’n datblygu symptomau a chael amseroedd dechrau ac egwyl gwahanol. Mae hefyd yn awgrymu darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) ychwanegol megis fisorau, os ydynt ar gael. Mae staff mewn cyfleusterau prosesu cig fel arfer yn gwisgo PPE, fel sydd wedi’i nodi yn eu Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS) perthnasol ac yn unol â pholisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn cynnwys mygydau.

Camau rheoleiddio a gorfodaeth ar gyfer torri rheoliadau iechyd a diogelwch

Gall torri deddfwriaeth iechyd a diogelwch fod yn ddarostyngedig i gamau rheoleiddio a gorfodaeth a allai, os cewch eich euogfarnu, arwain at ddirwy. Gall y gweithwyr sydd wedi’u heffeithio fynd ar drywydd hawliadau sifil am iawndal am anaf personol, hefyd.

Mae dadleuon achosiad diddorol yn debygol o godi wrth edrych ar heintiadau yn yr amgylcheddau ffatri hyn.

Ar gyfer erlyniadau rheoleiddio, bydd angen corff cadarn o dystiolaeth arbenigol bod heintiadau, at ei gilydd, wedi’u hachosi drwy fod yn agored i’r feirws drwy fethiannau penodol yn y gweithle, yn hytrach na throsglwyddiad ehangach yn y gymuned. Os mai dim ond ychydig o achosion sy’n codi mewn gweithle, gallai fod yn eithaf anodd profi hyn. Fodd bynnag, gyda chlystyrau o achosion sydd wedi’u cadarnhau, fel y rhai yr ydym wedi’u gweld mewn ffatrïoedd prosesu cig a chyfleusterau tebyg, bydd yn bosib tybio bod yr achosion fwy na thebyg wedi codi yn y gweithle hwnnw. Bydd yr agwedd hon yn frwydr ddiddorol yn yr arena rheoleiddio ac amser a ddengys natur y dadleuon i’w codi yng nghyswllt hyn.

Pwysigrwydd ymgymryd ag asesiadau risg penodol, cydweithredol

Nid oes amheuaeth bod dychwelyd i’r gweithle yn codi’r risg o drosglwyddo. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir yn y sector prosesu cig felly bydd y ddyletswydd a’r mesurau a gymerir i ddiogelu staff dan y chwyddwydr yn sicr.

Bydd methu ymgymryd ag asesiad risg penodol yn rhoi staff mewn risg llawer uwch ac yn gwahodd y camau rheoleiddio cryfaf. I atal y cyrff rheoleiddio rhag cymryd camau, bydd yn bwysig ymgysylltu â staff a dogfennu’r penderfyniadau a’r asesiadau risg a wneir gyhyd ag sy’n ymarferol bosib.

Share this article on social media

About the Author
Bryn Thomas, Partner

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


In-House with You

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING