Article

Lloegr v Cymru: wedi ysgaru ond heb wahanu

16th June 2020

Mae’r gwahaniaeth y mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi’i nodi yn ymateb Cymru i Covid-19 o gymharu â’r llywodraeth ganolog yn Lloegr, yn dangos rhai o’r pwerau y mae datganoli wedi’i gyflwyno i Gymru a beth mae’r rhaniad bob ochr i’r Afon Hafren yn ei olygu. Mae hyn yn cynnwys pwy allwch chi gwrdd â nhw ac ymhle, p’un a all eich plant ddychwelyd i’r ysgol, a hyd yn oed a allwch chi chwarae gêm o dennis!

Hyd yma, nid yw’r pwerau hynny yn ymestyn cyn belled â’r system gyfiawnder. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder (Chris Phelp) wedi ailadrodd nad oes gan y llywodraeth unrhyw gynlluniau i fabwysiadu’r argymhellion ar gyfer awdurdodaeth ar wahân yng Nghymru, er gwaethaf adroddiad annibynnol yn 2019 gan y cyn Arglwydd Brif Ustus (yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd) y dylai’r wlad gymryd rheolaeth lwyr o’i system gyfiawnder.

Yn fy neugain mlynedd o brofiad mewn cyfraith teulu, rwyf wedi gweld bod y rhaniad diwylliannol mewn cyfraith teulu rhwng Cymru a Lloegr yn anferth. Ychydig iawn o bobl sy’n croesi’r ffin er mwyn datrys eu problemau teuluol ac o’r rheini sy’n gwneud hynny, yr eglurhad arferol a roddir yw ‘preifatrwydd’. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion ysgariad a chywiro ariannol lle rhoddwyd yr union reswm hwnnw am ddod i Gaerdydd, dyweder, yn hytrach na Bryste.

Hyd yn oed o ystyried y ffaith fod y rhan fwyaf o broblemau teuluol yn cael eu datrys yn ‘lleol’, mae’r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn fwy nag yn y rhan fwyaf o ranbarthau er bod yr un egwyddorion cyfreithiol yn berthnasol yn y rhanbarthau naill ochr i’r Afon Hafren a bod y llywodraeth wedi dweud mai felly y byddi hi hefyd.

Yn nhermau effaith Covid-19 ar gyfraith teulu, mae’r isod yn berthnasol:

  • Trefniadau’n ymwneud â phlant – ar 23 Mawrth 2020, cyhoeddodd y llywodraeth ganllawiau llawn ar aros adref ac i ffwrdd rhag eraill, a oedd yn nodi, os nad oedd rhieni yn byw yn yr un aelwyd, gallai plant dan 18 gael eu symud rhwng cartrefi eu rhieni. Cafwyd eglurhad pellach gan Lywydd yr Adran Teulu a Phennaeth Cyfiawnder Teuluol, Syr Andrew Macfarlane, a gallwch weld hwn yn llawn yma https://www.judiciary.uk/announcements/coronavirus-crisis-guidance-on-compliance-with-family-court-child-arrangement-orders/.
  • Mae Cafcass a Cafcass Cymru (Gwasanaeth Cefnogaeth ac Ymgynghorol Llysoedd Plant a Theulu) yn parhau i weithio o bell.
  • Mae’r llysoedd ysgariad a chywiro ariannol yn dal yn weithredol, ond bydd y rhan fwyaf o wrandawiadau llys yn cael eu cynnal o bell dros y ffôn neu drwy lwyfan fideo megis Zoom. Gallwch barhau i wneud cais am ysgariad neu orchymyn cywiro ariannol. Bydd y llysoedd hefyd yn derbyn ceisiadau brys am waharddebau (megis gorchmynion i gadw rhag ymyrryd a gorchmynion i rewi asedau ariannol).
  • Mae cyfryngu yn dal i gael ei gynnal, eto, o bell gan ddefnyddio llwyfannau fideo.
  • Gellir cynnal gwrandawiadau datrys anghydfodau ariannol (FDRs) gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol er mwyn helpu i symud anghydfodau ariannol (sy’n codi o ysgariad neu wahanu) ymlaen lle gallai fod oedi fel arall wrth aros am ddyddiad gwrandawiad llys. Gall y rhain fod yn effeithiol iawn, er eu bod yn ddrud yn y lle cyntaf, maent yn gost-effeithiol yn y tymor hir os ydynt yn helpu i osgoi achosion llys hirfaith.
  • Trais domestig – mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau penodol i ddioddefwyr trais domestig a’r ymgyrch ‘Make Yourself Heard’ drwy bwyso ‘55’ ar alwad ‘999’.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion sydd wedi’u codi uchod, cysylltwch â’r tîm Cyfraith Teulu yn Harrison Clark Rickerbys ar [email protected], [email protected] neu [email protected] neu ar 0330 1072964. 

Related Blogs

View All