Article

Sut mae Covid-19 wedi effeithio ar y llysoedd cyfraith teulu?

14th July 2020

Mae cryn ymdrech wedi’i wneud y tu ôl i’r llenni, gan farnwyr, staff y llysoedd a chyfreithwyr, i gadw pethau i fynd yn y system cyfiawnder cyfraith teulu. Roedd y llysoedd teulu dan straen sylweddol hyd yn oed cyn Covid-19, gyda chyllidebau llysoedd yn gwegian dan bwysau’r achosion. Mae gallu a chyflymder staff y llysoedd ac ymarferwyr i wynebu’r her o gadw’r system i fynd wedi bod yn drawiadol iawn, yn fy marn i.

O fewn wythnosau, cymerais ran yn y cyntaf o nifer o ‘wrandawiadau ffôn o bell’. Dyma pan fo gwrandawiadau llysoedd yn digwydd gyda’r barnwr yn eistedd mewn llys, ond yn hytrach na’r partïon a’r cyfreithwyr yn eistedd o’i flaen, maen nhw ar alwad ffôn cynhadledd. Mae’r barnwr yn cadeirio’r alwad, mae’r partïon yn gwrando ac mae eu cyfreithiwr neu eu bargyfreithiwr yn dadlau eu hachos ar eu rhan. Mae rhai o’r gwrandawiadau hyn yn digwydd drwy Zoom. Mae’r ceisiadau, y datganiadau a’r holl dystiolaeth arall yn cael eu ffeilio’n ddigidol – mae ‘e-becynnau’ wedi disodli’r hen ffeiliau mawr traddodiadol yn llawn papur.

Fodd bynnag, byddai’n anghywir dweud nad yw cyfraith teulu wedi’i heffeithio gan y pandemig. Dyma’r hyn sydd wedi newid.

Trefniadau Plant

Yn gyffredinol, mae trefniadau plant – megis penderfynu faint o amser y gallwch dreulio gyda nhw, lle dylent fyw, neu faterion penodol eraill – yn cael eu trin fel arfer, er bod hynny drwy wrandawiadau o bell.

Fel bob amser, dylid ystyried cyfryngu cyn gwneud cais i’r llys. Fodd bynnag, os yw cais yn angenrheidiol, mae’r llysoedd teulu’n dal i ymdrin â’r ceisiadau hyn fel arfer ac o fewn yr amserlen ddeddfwriaethol.

Yn fy mhrofiad i, mae disgwyl i’r cynrychiolwyr cyfreithiol fod yn rhagweithiol. Dylent geisio cytuno ar faterion, neu adnabod materion yn gynnar, a chytuno ar gyfarwyddiadau llysoedd cyn eu hamser neilltuol gyda’r barnwr. Golyga hyn y gellir ymdrin â gwrandawiadau’n fwy effeithlon.

Dylid nodi y gallai fod angen oedi rhai materion mwy cymhleth gyda rhagamacan o amseroedd gwrandawiad hirach a thystion niferus, os na ellir eu cynnal yn gynhyrchiol drwy wrandawiad o bell. Gallai rhestrau llysoedd am wrandawiadau terfynol a gwrandawiadau hirach gymryd peth amser, felly disgwyliwch oedi gyda hynny. Nid oes unrhyw arwyddion y bydd y llysoedd yn agor eu drysau i wrandawiadau wyneb-yn-wyneb yn fuan.

Anghydfodau Cynnal Plant

Dylid ymdrin ag anghydfodau cynnal plant drwy’r Gwasanaeth Cynnal Plant o hyd. Maen nhw, fel bron pawb arall, wedi’u heffeithio gan Covid-19 ac arferion gweithio o gartref. Eu neges ar hyn o bryd yw, yn sgil Covid-19, nid yw’r Gwasanaeth Cynnal Plant yn cysylltu â rhieni sy’n talu ynghylch taliadau coll ar hyn o bryd. Mae’n bosib y bydd angen i chi aros yn hirach i gael yr arian sy’n ddyledus i chi.

Cam-drin Domestig

Mae’r cyfnod clo wedi cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr cam-drin domestig a’u gallu i chwilio am help. Mae canllawiau wedi’u rhyddhau gan y Llywodraeth ar gyfer gorchmynion brys (sy’n stopio’r sawl sy’n cam-drin rhag niweidio neu fygwth dioddefwyr). Mae hyn hefyd wedi ei gwneud hi’n haws i ddioddefwyr wneud ceisiadau, gan gydnabod ei bod hi’n bosib na all dioddefwyr gael yr amser a’r lle i ffwrdd o’r sawl sy’n eu cam-drin i lenwi cais.

Ysgaru ac anghydfodau ariannol

Mae ceisiadau yn cael eu prosesu gan y llysoedd fel arfer, ond dylech ddisgwyl peth oedi yn y llysoedd wrth osod dyddiadau ar gyfer gwrandawiadau oherwydd yr ôl-groniad o wrandawiadau sydd eisoes yn y system.

Mae’n bosib y byddai cleientiaid sydd rhan o’r ffordd drwy achos yn ymdrin ag arian ac yn wynebu oedi gyda dyddiadau gwrandawiadau yn dymuno ystyried trefnu Gwrandawiad Datrys Anghydfod Ariannol (FDR) a gynhelir yn breifat.

FDR yw’r ail o dri gwrandawiad llys mewn achos trefniadau ariannol teuluol lle mae’r partïon yn ceisio cyrraedd cytundeb yn sgil arwydd gan Farnwr ynghylch yr hyn y maen nhw’n ei ystyried yn ganlyniad teg. Mae’r rhan fwyaf o achosion yn setlo ar y cam hwn a dim ond lleiafswm sy’n bwrw ymlaen i drydydd gwrandawiad terfynol. Mae FDRs preifat wedi bod o gwmpas ers sawl blwyddyn ond maen nhw wedi dod yn fwy poblogaidd yn y misoedd diweddar. Maen nhw’n dilyn yr un gweithdrefn â FDR a gynhelir gan lys ond gellir eu trefnu ar adeg sy’n gyfleus i’r partïon a thrwy gynhadledd fideo os oes rhaid ei gynnal o bell. Fel arfer, bargyfreithiwr fydd y Barnwr sy’n arbenigo mewn materion teuluol. Bydd costau FDR preifat yn uwch na FDR a gynhelir gan y llys oherwydd bydd angen i’r partïon rannu cost y barnwr. Fodd bynnag, pan rydych yn ystyried ei fod yn llawer mwy hyblyg, yn gyflymach ac na fydd angen i’r barnwr ymdrin â nifer o achosion eraill ar y diwrnod (fel y byddai’n rhaid i farnwr teulu) maen nhw’n werth eu hystyried.

Addasu i’r ‘normal newydd’

Mae’r pandemig wedi cau i lawr nifer o’n gweithdrefnau arferol ond, mewn sawl achos, rydym wedi addasu’n gyflym ac, wrth wneud hynny, rydym wedi dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd a allai fod o fudd i gleientiaid a busnesau. Os hoffech drafod sut gallai unrhyw beth o’r uchod effeithio arnoch chi, byddwn i’n hapus i drefnu cyfarfod rhithiol.

Related Blogs

View All