O ganlyniad i bandemig Covid-19, mae llysoedd wedi gweld ôl-groniad sylweddol mewn achosion, yn enwedig yn y llys teulu.
Er mwyn osgoi oedi, mae dulliau y tu allan i’r llys megis cyflafareddu a chyfryngu yn dod yn fwyfwy deniadol i bartïon i ddatrys eu hanghydfodau. Ond beth sy’n digwydd os yw’r canlyniad yn sylweddol anghywir ac, os yw’n anghywir, ble mae’n gadael y partïon?
Mae dyfarniad diweddar y Fonesig Ustus King wedi cadarnhau y gellir gwrthod dyfarniad cyflafareddu os bernir ei fod yn anghyfiawn.
Yn achos Haley v Haley [2020] EWCA Civ 1369, cododd apêl o ddyfarniad canolwr a wnaed gan Mr Howard Shaw QC mewn cysylltiad â rhwymedïau ariannol. Credai’r gŵr fod y dyfarniad a wnaed yn annheg. Felly, gwnaeth gais i’r Uchel Lys yn ceisio apelio, neu am wneud gorchymyn lle byddai’r llys yn gwrthod gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Achosion Priodasol 1973 yn nhelerau’r dyfarniad ac yn hytrach y byddai’n arfer ei ddisgresiwn o’r newydd.
Cododd yr apêl gwestiynau pwysig ynghylch pa brawf y dylid ei gymhwyso pan fydd un parti yn gwrthod cydsynio i orchymyn neu’n herio gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Achosion Priodasol 1973 ynghylch dyfarniad canolwr y Sefydliad Cyflafareddwyr Cyfraith Teulu.
Dywedodd y barnwr fod y prawf priodol wedi’i “alinio’n agos” â’r un a ddarparwyd o dan delerau caeth Deddf Cyflafareddu 1996, oni bai y bu digwyddiad dilynol neu gamgymeriad. Caniatawyd apêl y gŵr, a chafodd y mater ei gyfeirio ar gyfer gwrandawiad rheoli achos gerbron barnwr cylchdaith.
Dywedodd y Farwnes Ustus King yn ei dyfarniad: “Nid oes angen dweud ei bod o’r pwys mwyaf nad yw darpar ddefnyddwyr y broses gyflafareddu yn cael eu rhwystro rhag defnyddio’r gwasanaeth gwerthfawr hwn; naill ai, ar y naill law, oherwydd nad ystyrir bod y canlyniad yn ddigon sicr neu, ar y llaw arall, oherwydd ystyrir nad yw cyflafareddu’n rhoi ateb digonol mewn amgylchiadau lle mae un o’r partïon yn credu bod canlyniad anghyfiawn wedi bod.”
A allai cyflafareddu fod y ffordd ymlaen i bartïon sydd am osgoi oedi sylweddol o fewn y system llysoedd? Mae’r dyfarniad diweddar wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd na fydd partïon efallai’n cael eu rhwymo gan ddyfarniadau anghyfiawn a bod cyflafareddu’n chwarae rhan werthfawr yn y system gyfiawnder.