Article

Prif gynghorion i fusnesau – delio â risg

5th February 2021

Nid yw’r her i fusnes erioed wedi bod yn fwy llym nag ydyw ar hyn o bryd, gyda Covid-19, Brexit a dirwasgiad ar y gorwel. Ni fu erioed yn fwy hanfodol gwarchod eich busnes rhag y risgiau. Noda Robin Koolhoven, partner yn ein tîm ailstrwythuro ac ansolfedd, rai awgrymiadau syml i’w cadw mewn cof. Yr allwedd yw bod ar flaen y gad – yn rhagweithiol, nid yn adweithiol:

  • Rheoli llif arian – bydd cynlluniau cymorth y llywodraeth fel ffyrlo, CBILs a benthyciadau Bounce Back yn dod i ben. Mae’n hanfodol eich bod yn paratoi eich llif arian ar gyfer y dyfodol ac yn deall lle y gallai eich problemau llif arian godi. Rheoli’r broses o gasglu llif arian a byrhau telerau talu. Mae paratoi yn rhoi cyfle i chi reoli’r materion.
  • Rheoli newid – edrych ar hanes masnachu, rhagweld cryfder a gwendid masnachu yn y dyfodol, a chydnabod pa feysydd o’ch busnes sydd angen eu newid. A yw lefelau staff yn gywir? A ellir gwneud arbedion cynhyrchu? Oes angen i chi newid eich ffocws? Gwnewch benderfyniadau er lles y busnes cyfan.
  • Rheoli contractau – sicrhewch fod eich telerau ac amodau yn gyfoes ac yn briodol ar gyfer Brexit. Ailedrychwch ar delerau gyda chyflenwyr – mae angen eich busnes arnynt. Deall anghenion eich cwsmer.
  • Rheoli gwybodaeth – ydych chi’n defnyddio gwybodaeth am y farchnad? Beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a sut maen nhw’n ymdopi? Bydd y farchnad hon yn rhoi cyfleoedd i gaffael neu uno â busnesau eraill. Cyfathrebu â chwsmeriaid, cyflenwyr a chystadleuwyr – mae gwybodaeth yn amhrisiadwy.
  • Rheoli dyletswyddau – mae gan gyfarwyddwyr ddyletswyddau ac mae ffocws y dyletswyddau hynny’n newid wrth i ffyniant ariannol busnesau newid. Ystyriwch eich dyletswyddau a gofynnwch am gyngor proffesiynol. Cofnodwch eich penderfyniadau a’r rhesymu dros y penderfyniadau hynny. Cadwch lyfrau a chofnodion priodol.

Oni bai bod eich busnes wedi bod yn llwyddiannus drwy gydol y 12 mis diwethaf, gallai ddioddef yn ystod y 12 mis nesaf os na wnewch yr un o’r uchod. Nid dyma’r amser i sefyll yn llonydd – nawr yw’r amser i fynd â’r maen i’r wal a pharatoi eich busnes ar gyfer dyfodol iach.

Related Blogs

View All