fbpx
HCR Law Events

5 September 2022

Tyfiant yn arwain at ehangiad HCR i Dŷ Hodge, adeilad eiconig yng Nghaerdydd

Mae tyfiant yn swyddfa Gymreig Harrison Clark Rickerbys yng Nghaerdydd wedi arwain i’r cwmni’n ehangu ei bresenoldeb drwy symud i adeilad eiconig, Tŷ Hodge, yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r symudiad sy’n digwydd ar y 5 o Fedi yn nodi’r cam nesaf yn nhaith y cwmni yng Nghymru, lle rydyn yn parhau i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol llawn i fodloni galw cleientiaid.

Daeth HCR adref i Gaerdydd ym mis Chwefror 2020, ar ôl blynyddoedd o weithio yng Nghymru, gan ddod â llawer o’r tîm gwreiddiol o bump yn ôl i’w gwreiddiau ac yn nes i’r cleientiaid. Ni wnaeth y pandemig atal tyfiant a chyfnerthwyd y tîm trwy cyflogu partneriaid allweddol ac ymuno gyda chwmni rheoleiddio gwasanaethau ariannol blaenllaw, Cyfreithwyr Stuart Brothers.

Mae’r tîm sydd bellach yn dîm o 40, wedi tyfu tu hwnt i ddisgwyliadau’r cwmni, gan ddatblygu arbenigeddau gan gynnwys cleient preifat llawn a chynghori a’r ‘blockchain’ a NFTs. Meddai Pennaeth y Swyddfa, Hefin Archer-Williams: “Clients value our ability to deliver high-quality legal services for businesses and individuals and being located in the city centre will mean we’re even more accessible for them. This move will enhance our position in the community, who we want to thank for their support over the last two and a half years.”

Cafodd tîm HCR Caerdydd ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau’r Gyfraith De Cymru gyda buddugoliaeth driphlyg. Ym mis Awst penodwyd y timau sifil a chyflogaeth i banel cyfreithiol Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr – mae hyn yn dilyn ein penodiad i banel cyfreithiol Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru llynedd.

Edrychwn ymlaen at groesawu ein cleientiaid, cysylltiadau proffesiynol a phartneriaid cymunedol i Dŷ Hodge yn fuan.

Share this article on social media

About the Author
Hefin Archer-Williams, Partner (FCILEx), Head of Cardiff Office

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


What is the future of the office?

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING