Pedwerydd Llawr, Swît 4a, Tŷ Hodge, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1DY
T: 02922 749200
F: 02922 749 201
Opening hours: Mon – Fri 9am – 5pm
Direct Dial: 029 2274 9198
Mobile: 07968 204 327
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf bywiog yn y Deyrnas Unedig, gydag amrywiaeth cyfoethog o fusnesau a phobl. Yn adlewyrchu gofynion y gymuned, mae ein cyfreithwyr wedi mewn lle da i helpu, boed hynny ar gyfer eich busnes neu eich bywyd personol.
Mae ein swyddfa yng Nghymru yn cynnig pecyn llawn o wasanaethau cyfreithiol, o gyfraith corfforaethol a datrys anghydfodau i eiddo deallusol a chyfraith fasnachol, rheoleiddio ariannol, eiddo tir, cyfraith teulu, cyflogaeth a rheoleiddio amaethyddol.
Mae ein harbenigedd gwasanaethau ariannol yn sylweddol, i rheini sy’n delio â materion sy’n gysylltiedig â’r FCA a FSMA, felly hefyd ein profiad o roi cyngor ar ‘blockchain’ ac ‘NFTs’.
Yn dilyn ehangu diweddar fel rhan o’n taith barhaol yng Nghymru, mae ein swyddfa wedi ei lleoli’n gyfleus yn adeilad eiconig Hodge House yng nghanol dinas Caerdydd, gyda thîm cryf o 40. Mae’r swyddfa yn gwbl hygyrch, gyda pharcio cyfagos, ac yn daith gerdded fer o Orsaf Caerdydd Canolog. Lleoliad delfrydol ar gyfer cwmni cyfreithiol lleol.
Rydych chi eisiau cyfreithwyr y gallwch ymddiried ynddynt i roi cyngor dibynadwy a chadarn i chi allu symud ymlaen; rydym yn siarad eich iaith, rydym yn dod o hyd i atebion os ydych chi mewn cyfyng-gyngor, ac rydym yn rhoi cynllun gweithredu clir i chi.
Does dim un ateb yn gweithio i bawb gyda’n tîm ni – rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei wir angen arnoch ac rydym yn agored a gonest gyda’n ffioedd.
Gyda ni ar eich ochr, fe allwch chi gymryd y blaen.
![]() |
![]() |
---|
Mae ein cyfreithwyr Cymreig yn cynnig amrediad eang o wasanaethau i unigolion a busnesau.
Ar gyfer unigolion, gallwn gynnig cymorth a chyngor ar faterion cyfraith teulu, ysgariad, prynu a gwerthu tai, gwneud ewyllysiau, ymddiriedolaethau a chynllunio etifeddiaeth. Gall ein cyfreithwyr hefyd eich helpu o ran dulliau amgen o ddatrys anghydfod a chyflafareddu.
Ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus sydd ynghlwm wrth fframwaith y GCC a busnesau o bob math ar hyd a lled Cymru, mae gennym sawl arbenigedd gan gynnwys cyfraith busnes a masnach, eiddo masnachol, materion cyflogaeth, datrys anghydfod a rheoleiddio gwasanaethau ariannol, gan gynnwys cyflafareddu ar gyfer busnesau a chynlluniau SIPP a SSAS. O fusnesau sy’n cychwyn o’r newydd i fenterau byd-eang, medrwn gynnig cyngor arbenigol bob cam o’r ffordd, i bob sector a phob busnes.
Gallwn eich helpu hefyd mewn sawl maes arbenigol, gan gynnwys amaeth a materion gwledig, amddiffyn a diogelwch, addysg, adeiladwaith a pheirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol a thechnoleg.
Service Teams