fbpx
HCR Law Events

14 September 2020

A fydd gornest chwyrn ar y 30ain o Fedi 2020?

** Diweddariad: 25 Medi 2020 – Mae Llywodraeth San Steffan hefyd wedi cyhoeddi y bydd y moratoriwm yn cael ei estyn o 30 Medi 2020 i 31 Rhagfyr 2020, gan ddiogelu busnesau sy’n denantiaid masnachol rhag dadfeddiant am nad yw’r rhent wedi ei dalu yn Lloegr.

** Diweddariad: 22 Medi 2020 – Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y moratoriwm yn cael ei estyn o 30 Medi 2020 i 31 Rhagfyr 2020, gan ddiogelu busnesau sy’n denantiaid masnachol rhag dadfeddiant am nad yw’r rhent wedi ei dalu.

Mae pob perthynas yn wynebu heriau.

Ond mae pandemig Covid-19 wedi rhoi perthynas gontractiol landlordiaid a thenantiaid prydlesau masnachol dan straen aruthrol.

Mae dyddiad allweddol yn prysur agosáu! Ar 30ain o Fedi 2020 bydd grym mesurau penodol o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 yn dod i ben, a bydd gan landlordiaid hawl i gymryd camau gorfodi yn erbyn tenantiaid safleoedd masnachol sydd heb dalu eu rhent.

Felly a fydd gornest chwyrn?

Gobeithio ddim! Ein gobaith yw y bydd y “Cod Ymarfer ar gyfer Perthnasau Eiddo Masnachol yn ystod Pandemig Covid-19” (y Cod) yn atal pethau rhag mynd yn rhy bell.

Beth mae’r Cod yn ei ddweud?

Mae’r Cod, a gyhoeddwyd ar yr 20fed o Fehefin, yn ceisio creu cydbwysedd rhwng grym landlordiaid a thenantiaid er mwyn cyrraedd un nod – sef helpu landlordiaid a thenantiaid masnachol i gytuno ar gynlluniau o ran adferiad economaidd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Y bwriad, yn y bôn, oedd sicrhau bod “pob rhan o’r gadwyn yn cael ei diogelu”, gan hybu’r egwyddor allweddol sef “tryloywder a chydweithredu” gan wneud yn siŵr bod partïon yn “ymddwyn yn rhesymol ac yn gyfrifol”.

Anogir landlordiaid yn frwd i gefnogi busnesau eu tenantiaid os oes modd iddynt wneud hynny. Awgrymir sawl datrysiad y gall landlordiaid eu hystyried, megis:

  • cytundebau i rannu’r rhent ar gyfer cyfnod pan nad oedd y tenant ar y safle
  • cynlluniau talu dros gyfnod penodedig
  • lleihad yn y rhent yn gyfnewid am ymestyn y brydles

Yn gyfnewid am hyn, anogir tenantiaid i fod yn agored ynglŷn â’r effaith y mae Covid-19 wedi ei gael ar eu busnesau a rhannu tystiolaeth gyda’u landlord.

Mae’r landlordiaid rheiny sy’n barod i roi amser er mwyn deall busnes eu tenantiaid a’u cefnogi wrth iddynt wynebu caledi yn y tymor byr, yn fwy tebygol o elwa o berthynas hir a sicrwydd o ran eu buddsoddiad tymor hir.

Mae’r Cod yn cydnabod y bydd costau gwasanaeth ychwanegol ynghlwm wrth weithredu o adeilad sy’n cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch newydd o ran Covid-19, ac mae’n awgrymu y dylid gwneud gorchmynion am dâl gwasanaeth yn amlach, dros gyfnodau byrrach er mwyn helpu tenantiaid i reoli taliadau.

Sut mae hyn yn berthnasol i’r Cod a Deddf Coronafeirws 2020?

Dilynodd y Cod ddull gweithredu mwy caeth yn unol â’r hyn a osodwyd gan ddeddfwriaeth yn Neddf Coronafeirws 2020 a ddaeth i rym ar y 26ain o Fawrth 2020.

Bwriad Deddf Coronafeirws oedd rhoi rhyddhad i denantiaid a loriwyd gan effaith economaidd-gymdeithasol Covid-19, ac roedd disgwyl i’w grym ddod i ben ar y 30ain o Fehefin 2020.

Ond, yn y cyfamser, diweddarwyd y Ddeddf Coronafeirws gan reoliadau sy’n golygu na fydd ei grym yn dod i ben nes y 30ain o Fedi 2020. Dyma newyddion da sy’n golygu bod mwy o amser ar gael i ymgorffori’r Cod.

Hyd at y dyddiad yma, ni fydd gan landlordiaid yr hawl i ddod â phrydles fasnachol i ben am nad yw’r rhent wedi ei dalu. Yn yr un modd, nid yw methiant tenant i dalu rhent am y cyfnod perthnasol bellach yn sail i landlord wrthod tenantiaeth newydd o dan y Ddeddf Landlord a Thenant 1954.

Mae’r Ddeddf Coronafeirws hefyd yn gwahardd y defnydd o Adfer Ôl-ddyledion Rhent Masnachol nes y  30ain o Fedi 2020, oni bai bod o leiaf 189 diwrnod o rent yn ddyledus a heb ei dalu (cyn hyn – 90 diwrnod o rent heb ei dalu).

Yma yn HCR rydym wedi ein calonogi gan nifer y sgyrsiau agored a thryloyw sydd wedi bod rhwng landlordiaid a thenantiaid. Fe ddylai’r Cod, sydd mewn sawl ffordd yn ceisio cwmpasu’r hyn a ystyrir yn arfer gorau o fewn y maes rheoli asedau, gynorthwyo ymhellach o ran adeiladu ar y sgyrsiau yma.

Mae dod o hyd i atebion tymor hir y mae’r landlordiaid a’r tenantiaid yn hapus â hwy, yn ogystal â dod o hyd i gyfaddawd mewn perthynas sydd eisoes, o bosib yn berthynas anodd ar y gorau, yn rhywbeth yr ydym ni fel cynghorwyr proffesiynol yn annog ein cleientiaid i wneud. Dylai ysbryd y Cod, pe byddai’n cael ei fabwysiadu a’i gyflwyno’n iawn, chwarae rhan allweddol wrth helpu’r farchnad eiddo masnachol yn ôl ar ei thraed. Mae cyfathrebu’n allweddol, ac os nad yw landlordiaid a thenantiaid wedi cychwyn siarad yn barod – mae angen iddynt gychwyn nawr.

Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, mae’r ysbryd cydweithredu, sy’n rhan annatod o’r Cod, yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn parhau ymhell ar ôl i’r pandemig ein gadael. Does dim rheswm pam na ddylai egwyddorion y Cod gael eu hymgorffori yn nhrafodaethau landlordiaid a thenantiaid yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â Justin Mason ar [email protected] neu ar 07725 242 823.

Share this article on social media

About the Author
Justin Mason, Partner, Head of Real Estate, Cardiff

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


What is the future of the office?

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING