Article

Awgrymiadau ar gyfer dod i gytundeb ar gytundebau setlo

17th April 2023

Gall cytundeb setlo fod yn ffordd ddefnyddiol i gyflogwr a gweithiwr fynd eu ffyrdd eu hunain ar delerau y cytunwyd arnynt a darparu rhywfaint o sicrwydd. Yn aml ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud i fynd eu ffyrdd eu hunain, gan ddefnyddio’r dull hwn, yn naturiol mae awydd i ddod â’r broses i ben yn brydlon. Isod gwelir rhai awgrymiadau ar ffyrdd o gyflymu’r broses:

Awgrym 1 – Cytuno ar y pecyn ariannol yn gyntaf

Yn aml, dyma agwedd y cytundeb y mae’r gweithiwr yn poeni fwyaf amdani. Os nad yw’r pecyn hwn yn cael ei gytuno cyn i’r gweithiwr gwrdd â’u cyfreithiwr, gall arwain at fod y rhan fwyaf o’r trafod yn seiliedig ar y telerau ariannol. Yn naturiol,  lle mae’r trafod hwn yn digwydd gyda chyfreithiwr, mae  hyn yn cynyddu costau cyfreithiol y gweithiwr a gall arwain at y gweithiwr fod yn poeni mwy am drafod pecyn ariannol uwch (sy’n gallu effeithio ar amserlenni).

Mae hefyd yn ddefnyddiol bod yn glir ar symiau terfynol pob agwedd o’r pecyn ariannol. Er enghraifft, os bydd bonws neu gomisiwn yn cael ei dalu, bydd y gweithiwr eisiau gwybod faint fydd hyn. Os nad oes modd cadarnhau’r ffigwr terfynol eto, gall y gweithiwr benderfynu oedi cyn llofnodi nes bod y ffigwr yma’n cael ei gadarnhau.

Awgrym 2 – Ystyried unrhyw delerau penodol

Efallai bod gennych chi dempled cytundeb setlo safonol rydych chi fel arfer yn gweithio ohono. Fodd bynnag, gellir teilwra pob cytundeb setlo a’i ddiwygio i’r sefyllfa. Mae’n bwysig ystyried unrhyw bryderon neu amgylchiadau penodol y gellir eu cynnwys gyda drafftio cyfreithiol pwrpasol. Er enghraifft, efallai y bydd yn bwysig cael rhwymedigaeth ar y gweithiwr i gyflawni trosglwyddiad cynhwysfawr gydag unigolion penodol cyn y dyddiad terfynu. Gellir ychwanegu drafftiau i adlewyrchu pwysigrwydd cydymffurfio â’r rhwymedigaeth hon.

Awgrym 3 – Ystyried ychwanegion i helpu i wneud y cytundeb yn fwy deniadol

Pan fydd dod i gytundeb yn arbennig o bwysig i’r cwmni mae yna nifer o opsiynau a allai helpu i wneud cyfanswm y pecyn yn fwy apelgar. Er enghraifft, polisi estynedig ar gyfer yswiriant meddygol preifat (bydd angen i chi sicrhau bod hyn yn cael ei awdurdodi gan yr yswiriwr a bod drafftio gofalus i gwmpasu’r hawl hwn), cwnsela allan o’r lleoliad i ddarparu arweiniad a hyfforddiant i’r gweithiwr a defnydd parhaus o gar cwmni. Fodd bynnag, mae’n bwysig gwirio’r ymdriniaeth dreth gywir ar gyfer pob budd ac adlewyrchu hyn yn gywir yn y cytundeb setlo. Mae hefyd yn bwysig bod yn glir ar yr ymdriniaeth dreth ar gyfer yr holl daliadau sy’n cael eu gwneud o dan y cytundeb setlo.

Awgrym 4 – Caniatáu digon o amser i gwrdd â’ch terfynau amser mewnol

Am wahanol resymau gall fod terfynau amser y mae angen i’r cwmni eu bodloni mewn perthynas â llofnodi’r cytundeb setlo. Er mewn theori gallai’r broses fod yn gymharol gyflym. I fod yn ddilys, rhaid i’r gweithiwr dderbyn cyngor cyfreithiol annibynnol ar delerau ac effaith y cytundeb setlo a’u gallu i ddod â hawliad.  Yn aml, unwaith y bydd gweithwyr yn adolygu’r cytundeb setlo gyda’u cyfreithiwr, byddant eisiau trafod o leiaf rhyw agwedd o’r telerau. Gall trafod fod yn hir yn enwedig yng nghyswllt gweithwyr uwch.

Awgrym 5 – Trefniadau i lofnodi

Mae’n bosib na fydd y partïon yn dod i gytundeb ar y telerau tan yn agos iawn at derfyn amser y cwmni. Yn aml, y ffordd gyflymaf o drefnu llofnodi yw gwneud defnydd o feddalwedd llofnodi electronig, sy’n caniatáu i’r ddwy ochr lofnodi a derbyn copi wedi’i lofnodi’n llawn yn brydlon. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol ar bod gan o leiaf un o’r partïon y feddalwedd. Dull arall yw llofnodi mewn gwrthran. Mae hyn yn golygu y bydd y naill barti a’r llall yn llofnodi ei gopi ei hun a gyda’i gilydd bydd y ddau gopi yn gyfystyr â’r cytundeb sydd wedi’i lofnodi’n llawn. Argymhellir sicrhau bod y cytundeb setlo yn cynnwys darpariaeth benodol i ganiatáu ar gyfer y dull hwn o weithredu. Ymhellach, mae’n ddefnyddiol sicrhau y bydd y llofnodwyr awdurdodedig perthnasol yn barod i’w llofnodi mewn pryd.

Mae tîm Cyflogaeth a Mewnfudo Caerdydd yn brofiadol iawn o ran drafftio a thrafod cytundebau setlo, cysylltwch â’r tîm os oes angen unrhyw gymorth cyfreithiol arnoch chi.

Related Blogs

View All