Article

Busnesau ffermio modern: heriau ac atebion

17th October 2023

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae pwysau cynyddol ar elw; mae costau wedi mynd drwy’r to, gyda chwyddiant ar gyfer peth mewnbwn ffermio allweddol fel gwrtaith dros 100%. Mae pris y cemegau angenrheidiol sydd eu hangen wedi cynyddu ac, fel y gwyddom, mae tanwydd yn ysgwyddo cyfran gynyddol fawr o’r costau y mae’n rhaid i fusnes ffermio eu hwynebu.

Mae’r holl ffactorau hyn yn cynyddu’r pwysau ar deuluoedd ffermio ac mae risg gwirioneddol na fydd y model fferm traddodiadol teuluol yn parhau i fod yn hyfyw. I lawer yr ateb fu ceisio arallgyfeirio sy’n cynyddu’r pwysau i weithio oriau hirach. Fodd bynnag, nid yw hwn yn ddatrysiad cynaliadwy.

Gellir dadlau bod ffermio ar drothwy newidiadau sylweddol i’r hyn sy’n ofynnol ac yn ddisgwyliedig gan y llywodraeth a rhannau helaeth o’r cyhoedd. Mae llai o bwyslais ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a phwyslais cynyddol ar reoli amgylcheddol, coed a lles y cyhoedd. Nid yw’r ddadl ynghylch y materion hyn bob amser yn adeiladol ac mae ffermio’n aml yn cael ei weld fel gelyn i’r amgylchedd.

Bydd baich rheoleiddio a gweinyddol cynyddol ar fusnesau ffermio yn deillio o’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol newydd, y drefn Parthau Perygl Nitradau, a gofynion rheoleiddio llinell sylfaen. Bydd y rhain yn codi heriau sylweddol i ffermwyr.

Ni ddylid anghofio serch hynny y gellid dadlau mai Cymru sydd â’r math mwyaf cynaliadwy o gynhyrchu llaeth, cig eidion a defaid sy’n pori ar laswellt, a dylid dathlu’r gwaith a wneir gan ffermwyr yn bennaf ac ni ddylid ei ddifrïo.

Beth yw’r atebion i’r hyn sy’n edrych fel amseroedd heriol i’r diwydiant?

Yn gyntaf, mae’r diwydiant bob amser wedi cael ei gynrychioli’n dda gan ei undebau ffermio, yn enwedig yr NFU, i geisio addysgu’r llywodraeth a lliniaru effaith polisïau ar ffermio fel bod modd gweithredu’r polisïau hynny yn ymarferol. Yn ail, mae angen i fusnesau ffermio gael cynllun busnes clir, i gynnwys cynllunio olyniaeth. Mae angen i’r busnes fod yn broffidiol a chynaliadwy os yw’n mynd i oroesi a ffynnu. Mae meincnodi yn arf hanfodol – bydd y busnesau sy’n adolygu cost a gwella perfformiad bron yn sicr o fod yn broffidiol. Mae’n bosib iawn y bydd y rhai nad ydynt yn gwneud hynny yn cael trafferth.

Mae angen y cymorth cywir ar fusnes gan ei gynghorwyr proffesiynol. Dylai hyn gynnwys:

  • Rheoli cyfrifon yn rheolaidd a thrafodaethau i asesu proffidioldeb
  • Rhoi’r dogfennau cywir ar waith i wneud yn siŵr bod y busnes yn ddiogel – er enghraifft cytundeb partneriaeth ac ewylllys
  • Cynllun clir i ganiatáu i’r genhedlaeth nesaf fod yn rhan o’r busnes a’u mentora.

Yn olaf, ni ddylai busnes ffermio fod yn erbyn newid na rhoi cynnig ar wahanol gyfleoedd wrth iddynt godi. Efallai y bydd opsiynau arallgyfeirio gwahanol hefyd. Unwaith eto, mae angen ystyried y rhain yn ofalus – mae hyn yn pwysleisio pam bod angen i fusnes ffermio fod â chynghorwyr dibynadwy wrth law i adolygu cynigion ac i sicrhau bod busnes y fferm yn cael ei ddiogelu’n iawn.

Related Blogs

View All