Article

Treth Datblygwr Eiddo Preswyl

15th March 2022

Ar Ebrill y 1af 2022 bydd treth datblygwr eiddo preswyl (RPDT) yn dod i rym ar draws y DU, gan gynnwys yng Nghymru.

Bydd yn rhaid i ddatblygwyr eiddo preswyl dalu RPDT ar elw y mae cwmnïau’n ei wneud ar ddatblygu eiddo preswyl yn y DU. Bydd angen talu’r dreth ar elw o dros £25m (felly cwmnïau’n unig a fydd yn cael eu heffeithio) ar gyfradd o 4%.

Cyhoeddodd y cyn Ysgrifenydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y Gwir Anrhydeddus Robert Jenrick AS, y dreth ar y 10fed o Chwefror 2021.

Lansiwyd ymgynghoriad ar ddyluniad y dreth ar y 29ain o Ebrill 2021 a chyhoeddwyd yr ymateb i’r ymgynghoriad fel rhan o Gyllideb yr Hydref y llynedd.

Mae’r dreth yn ffurfio rhan o becyn diogelwch adeiladu – Building Safety Package – y Llywodraeth sy’n gobeithio “rhoi diwedd ar glading peryglus, rhoi sicrwydd i berchnogion tai a chreu hyder yn y farchnad dai”

Yn ei bapur polisi, a gyhoeddwyd ar y 27ain o Hydref 2021, eglurodd y llywodraeth ei rhesymeg dros gyflwyno’r dreth newydd, gan ddatgan: “O ystyried y costau sylweddol sydd ynghlwm â chael gwared â chlading peryglus, creda’r llywodraeth ei bod yn gwneud y peth iawn drwy geisio cyfraniad gan y datblygwyr mwyaf o fewn y sector datblygu eiddo preswyl fel un modd o ariannu’r gwaith.

Drwy gydol y broses ymgynghori, awgrymodd Trysorlys ei Mawrhydi eu bod yn teimlo mai am amser penodol yn unig y bydda’r dreth yn bodoli ac maent wedi awgrymu yn eu papur polisi y byddant yn adolygu’r dreth yn barhaus.  Er hyn, mae’n gobeithio y bydd y dreth yn codi refeniw o £2 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd.

Nid oes disgwyl i’r dreth newydd gael effaith ar unigolion na chael unrhyw effeithiau marcoeconomaidd o bwys. Mae’r llywodraeth wedi awgrymu “mai bach iawn y maent yn disgwyl i unrhyw effaith ar brisiau tai a gweithrediadau fod, gan mai cyfran fechan o weithrediadau’r farchnad gyffredinol yw tai newydd”

Disgwylir, fodd bynnag, y bydd RPDT, heb os nac oni bai, yn cael effaith fechan ar weithrediadau nifer fechan o fusnesau mawr sy’n ymgymryd â gweithgareddau’n ymwneud ag adeiladu eiddo preswyl yn y DU.

Mae’r dreth ar elw sy’n deillio o eiddo preswyl yn ddeddfwriaeth newydd. Bydd RPDT yn cael ei chynnwys yn y Bil Cyllid 2022 a bydd yn berthnasol i elw sy’n deillio o ddatblygu eiddo preswyl yn y cyfnodau cyfrifo sy’n dod i ben ar, neu ar ôl, y 1af o Ebrill 2022. Fodd bynnag, os yw cyfnod cyfrifo cwmni’n syrthio y naill ochor i’r 1af o Ebrill 2022, bydd elw’r cyfnod cyfrifo’n cael ei ddosrannu er mwyn penderfynu faint sy’n syrthio cyn ac ar ôl cyflwyno’r dreth newydd.

Y ffurflen a’r systemau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn perthynas â’r dreth gorfforaethol a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y dreth newydd hefyd (felly bydd y ddeddfwriaeth weinyddol a geir yn Atodlen 18 y Ddeddf Cyllid 1998 yn berthnasol). Gan gymryd fod cwmnïau mawr yn gwybod yn barod sut i gyfrifo elw ar gyfer dibenion treth gorfforaethol, mae’r llywodraeth, yn fwriadol, wedi alinio’r ffordd y caiff RPDT a’r dreth gorfforaethol eu gweinyddu er mwyn gwneud pethau’n haws i gwmnïau.

Gordal, i bob pwrpas, yw’r dreth ar weithgareddau sy’n ymwneud â datblygu eiddo preswyl.

Bydd angen i grwpiau gyfrifo eu helw blynyddol, sy’n deillio o ddatblygu eiddo preswyl yn y DU, addasu’r elw er mwyn rhoi cyfrif ar unrhyw lwfansau a gostyngiadau eraill, ac yna defnyddio cyfradd 4% y RPDT i gadarnhau faint o dreth sy’n ddyledus.

Related Blogs

View All