Bydd un o brif gyfreithwyr rheoleiddio’r sector ariannol, Stuart Brothers, yn ymuno a swyddfa cwmni cyfreithiol arobryn, ‘top 100’ Harrison Clark Rickerbys yng Nghaerdydd, bydd yn dod a’i dîm gydag ef, gan adeiladu athroniaeth y swyddfa o ‘Gwell gyda’n gilydd’.
O’r 30ain o Ebrill, bydd y tîm o bump o Gyfreithwyr Stuart Brothers yn rhoi hwb i’r gwasanaethau cynghori ac ymgyfreitha arbenigol i gyrff a reoleiddir gan yr FCA ar draws y cwmni cyfan.
Wrth drafod dyfodiad Stuart, dwedodd Hefin Archer Williams, Pennaeth Swyddfa HCR yng Nghaerdydd: “Bydd amrywiaeth a dyfnder gwybodaeth arbenigol Stuart, sydd wedi ei adeiladu dros gyfnod o flynyddoedd o fewn Grŵp AMP, fel RhG grŵp London Life ac fel cynghorydd i yswirwyr a banciau ar gydymffurfio gyda Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd yn amhrisiadwy i gleientiaid y cwmni.
“Rwyf wrth fy modd ei fod o a’r tîm yn ymuno a ni – mae’r cyfle iddynt hwy a’u cleientiaid yn coroni blwyddyn gyntaf cyffroes i ni yma yng Nghaerdydd.”
Dywedodd Stuart: “Mae ymuno gyda HCR yn rhoi cyfle i fy nghleientiaid i gael mynediad i wasanaethau cyfreithiol dyfnach a mwy eang sydd ar gael gan gwmni o’r maint yma, gall fy nhîm hefyd fuddio o’r cyfleon datblygu ddaw gyda’r maint yma, ac i mi yn bersonol i ddatblygu fy nghynnig gwasanaeth rheoleiddiol o fewn tîm ymchwilio, rheoleiddio a threth HCR.”