News

HCR Law yn sicrhau penodiad ehangach i fframwaith Llywodraeth Cymru

21 July 2025

Our Cardiff Team

Mae HCR Law wedi sicrhau ailbenodiad i Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithwyr Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru.

Gan adeiladu ar y safle blaenorol yn 2021, pan benodwyd swyddfa Cymru HCR Law yng Nghaerdydd i ddau lot, mae’r cwmni bellach wedi’i benodi i bum maes.

Y rhain yw; Llywodraethu Corfforaethol, Addysg, Cynllunio ac Amgylcheddol, Eiddo, ac Adeiladu.

Mae’r penodiad estynedig hwn yn dangos dyfnder yr arbenigedd yn swyddfa Cymru HCR Law yng Nghaerdydd a’i enw da cynyddol yn y sector cyhoeddus.

Mae’r fframwaith pedair blynedd yn galluogi i sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru gael mynediad at gyngor cyfreithiol dibynadwy ar draws ystod eang o feysydd arbenigol, ac mae penodiad cynyddol HCR Law yn sicrhau bod y cwmni mewn lle da i i gefnogi’r sector cyhoeddus ar draws de a gogledd Cymru.

Dywedodd Hefin Archer-Williams, Partner a Phennaeth swyddfa HCR Law yng Nghaerdydd:

“Yn dilyn proses dendro hynod gystadleuol, rydym yn falch iawn o gael ein hailbenodi i fframwaith Llywodraeth Cymru gyda chylch gorchwyl estynedig. Mae symud o ddau i bum lot mewn dim ond pedair blynedd yn dystiolaeth glir o’r cyngor cyfreithiol arbenigol yr ydym yn ei ddarparu i’n cleientiaid bob dydd, a safon y tîm yr ydym yn parhau i’w adeiladu yma yng Nghymru.

Yn 2025, rydym yn dathlu pum mlynedd ers agor ein swyddfa yng Nghymru. Mae’r penodiad hwn yn garreg filltir bwysig – un sy’n tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru gyda chyngor cyfreithiol arbenigol dibynadwy.”

Translate to English

Sut gallwn ni eich helpu chi?

"*" indicates required fields

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

Related articles

View All