Article

Pam dod yn noddwr?

13th February 2023

Mae hwn yn gwestiwn amserol iawn nawr oherwydd diffyg gweithwyr medrus yn y DU ar hyn o bryd. Mae’r prinder hwn wedi’i gydnabod mewn nifer o swyddi gweithwyr medrus a di-sgiliau.

Gan fod mwy o sefydliadau’n ceisio cyflogi gweithwyr mudol, ymddengys ei bod yn hanfodol eu bod yn ymwybodol o’r risgiau a’r pryderon perthnasol. Hefyd, manteision dod yn noddwr a’r dyletswyddau y mae’n eu golygu.

Unwaith y byddwch wedi adnabod bod angen mwy o weithwyr medrus arnoch ac, yn syml, ni allwch ddod o hyd iddynt yn y DU, yna rhaid i chi ddechrau ystyried yr opsiwn o ddod yn noddwr a gwneud cais am drwydded nawdd.

I gael eich derbyn fel noddwr, mae pwysigrwydd y gweithiwr yn hollbwysig.

Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o’r ffactorau canlynol:

Yn gyntaf, dylent sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r gyfraith gyflogaeth, sy’n golygu y dylent fod yn ymwybodol o’r holl ddiweddariadau perthnasol a’u bod yn eu lle ar yr adegau perthnasol. Dylai fod system glir ar waith hefyd sy’n helpu’r gweithwyr.

Mae’n hanfodol eu bod yn trin y gweithwyr yn gyfartal ac yn sicrhau bod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i gydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwnt, megis yr holl ddogfennau cyfreithiol yn cael eu cyfieithu i’w hiaith frodorol a sicrhau bod ganddynt fynediad at rywun sy’n gallu siarad â nhw yn eu hiaith frodorol.

Mae’n bwysig iawn sicrhau nad yw’r gweithiwr mudol yn teimlo ei fod yn cael ei adael allan neu’n cael ei wahaniaethu yn ei erbyn am beidio â bod yn Brydeinig neu am beidio â siarad Saesneg.

Nid yw hyn yn broblem sy’n gyfyngedig i’r sefydliadau sy’n cyflogi’r gweithwyr hyn, mae’r mater yn mynd ymhellach na hynny – a dyna pam bod angen mwy o addysg a dealltwriaeth. Mae angen canllawiau clir ynglŷn â chydymffurfio a beth sy’n dderbyniol a beth sydd ddim.

Mae angen gweithredu mwy o hyfforddiant i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu gweld ar y dechrau. Dylai’r rheolwyr fod yn ymwybodol fel y dylai AD ynglŷn â’r risgiau a bod yn ymwybodol o’r arwyddion cyn iddyn nhw ddod yn broblem.

Mae angen siarad am addysg ar ecsploetio ac anogaeth i adrodd am y pryderon hyn a’u gweithredu. Cynghorir hefyd i fod yn ymwybodol o’r recriwtwyr a’r cyflenwyr a ddefnyddir i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’u harferion eu hunain.

Dylid ei gwneud yn glir bod gweithwyr mudol yn y DU yn gymwys ar gyfer yr un hawliau â gweithwyr eraill yn y DU, ond mae angen i chi gwestiynu a yw’r gweithiwr mudol yn gwybod hyn. Ydyn nhw’n ymwybodol o’u hawliau? Ydyn nhw wedi cael eu hesbonio? Mae deall hyn yn bwysig iawn ac mae sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu parchu yn anghenraid cyfreithiol.

Eisiau cyflogi o dramor?

Os na all eich busnes, fel llawer, ddod o hyd i ymgeiswyr addas yn y DU, yna bydd angen i chi ystyried yr opsiwn o wneud cais am drwydded nawdd. Wrth wneud cais am drwydded nawdd mae’n rhaid bod gennych resymau clir pam y byddwch yn ymgeisio, dylid nodi bod y drwydded nawdd yn fanwl a chymhleth.

Mae angen dilyn y canllawiau a chydymffurfio’n llym â nhw. Y prif reswm am hyn yw sicrhau bod busnesau’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’r dyletswyddau y mae angen iddynt eu cyflawni i noddi gweithiwr mudol.

Mae’r llywodraeth yn dod yn sensitif i’r mater o weithwyr mudol oherwydd sawl achos sydd wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd yn tynnu sylw at y cam-drin a’r ecsploetio y gallant eu hwynebu. Mae hwn yn faes amserol iawn ac yn un y dylid ei amlygu i sicrhau ein bod yn gallu atal cyflogwyr diegwyddor rhag cyflawni gweithredoedd o’r fath ac elwa o’r fath ddiflastod.

Ers Brexit, mae cyflogwyr y DU yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i weithwyr â sgiliau priodol ac mae’r angen i edrych y tu allan i’r DU yn ffaith. Dyna pam bod angen mwy o arweiniad; mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cydymffurfio ac mae’n bwrpasol wneud hyn yn anoddach i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn unol â’r gyfraith.

Mae’r llywodraeth wedi mynd un cam ymhellach trwy ostwng trothwyon sgiliau a chyflog, wedi tynnu’r cap ar niferoedd mudol ac maen nhw’n cydnabod yr angen yn y DU i fod ychydig yn fwy hyblyg. Er bod y DU yn cydnabod yr angen am nifer fwy o weithwyr medrus maen nhw hefyd yn cydnabod yr angen am reolau llymach a mwy o arweiniad. Gyda hyn daw mwy o gydymffurfio a diwygiadau i ddyletswyddau’r noddwyr.

Beth yw dyletswyddau’r noddwyr?

Ar ôl i chi dderbyn eich trwydded nawdd ac wedi llwyddo i bennu ymgeisydd addas mae gennych amrywiaeth o ddyletswyddau y mae angen i chi sicrhau eich bod yn eu cyflawni.

I ddechrau bydd gennych y cyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn gwneud cais cywir am y CoS cywir. Tystysgrif Nawdd yw CoS. Os ydych yn gwneud cais am weithiwr medrus o dramor  -clirio mynediad – byddwch yn gwneud cais am CoS Diffiniedig.

Bydd CoS heb ei ddiffinio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithwyr medrus sy’n gwneud cais am ganiatâd o fewn y DU.

Unwaith y byddwch wedi adnabod y CoS cywir, wedi gwneud cais amdano, ac mae wedi’i roi bydd yn rhaid i chi wedyn ei neilltuo i’r gweithiwr perthnasol. Wrth neilltuo’r CoS, sicrhewch eich bod wedi gwirio’r holl wybodaeth berthnasol. Dylai fod gennych ddyddiad cychwyn clir mewn golwg gan fod yn rhaid nodi hyn ar y dystysgrif.

Fodd bynnag, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru er mwyn datgan y gall gweithiwr ddechrau gweithio i’r cwmni perthnasol wedi iddyn nhw gael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU.

Ychwanegwyd gwelliant arall er mwyn caniatáu gohirio’r dyddiad cychwyn am gyfnod o 28 diwrnod os oes angen. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol ar fod rheswm da.

Rhaid nodi’n glir fanylion eraill yn y crynodeb ynglŷn â’r disgrifiad swydd. Mae’n rhaid i chi ddatgan yn glir nifer yr oriau y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd weithio. Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn defnyddio’r cod SOC cywir neu’r cod meddiannaeth perthnasol er mwyn osgoi materion gyda’r Swyddfa Gartref.

Yn amlwg, mae’n rhaid i chi hysbysu’r Swyddfa Gartref am unrhyw absenoldebau di-dâl. Mae hyn yn rhan o’ch dyletswyddau adrodd y mae’n rhaid i’r noddwr sicrhau ei fod yn cydymffurfio â nhw. Rhaid i’r noddwr fod yn ymwybodol bod yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i noddi gweithiwr sy’n absennol o’r gwaith heb dâl am fwy na phedair wythnos i gyd mewn unrhyw flwyddyn galendr.

Mae’n hanfodol bod y noddwr yn cydymffurfio â hyn ac yn sicrhau eu bod yn cadw at eu  cyfrifoldebau megis monitro’r gweithwyr a bod ganddynt y systemau perthnasol yn eu lle. Bydd hyn yn caniatáu i’r noddwr fonitro statws mewnfudo’r gweithwyr, sicrhau bod ganddynt gopïau o’r dogfennau perthnasol megis pasbort, tracio a chofnodi presenoldeb y gweithwyr, cadw manylion cyswllt y gweithwyr wedi’u diweddaru ac yn bwysig bod yn ymwybodol bod ganddynt ddyletswydd i adrodd i’r UKVI os oes problem e.e. os yw’r gweithiwr yn stopio dod i’r gwaith.

Er bod y dyletswyddau sy’n ymwneud â dod yn noddwr wedi dod yn llymach mae’r manteision o wneud cais am drwydded nawdd yn siarad drostynt eu hunain. Mae’n caniatáu i’r busnesau dyfu a datblygu heb yr ofn cyson hwn o fethu â chael y gweithiwr medrus mwyaf priodol a chymwys. Mae’n caniatáu i gwmnïau ddefnyddio sgiliau gweithwyr tramor go iawn a fydd o fudd i’r cwmni a’r DU.

Related Blogs

View All