Article

Pryd y gall achosion meddiant ail-ddechrau

19 October 2020

Mae angen i landlordiaid a thenantiaid fod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf sy’n effeithio ar gyfnodau rhybudd i denantiaid, yn ogystal â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran troi tenant allan ac achosion meddiant.

Yn ystod y cyfnod clo cafodd yr holl achosion meddiant yn erbyn tenantiaid eu gohirio yn awtomatig o dan welliant a wnaed i reolau trefniadaeth sifil 1998.

Yn wreiddiol, cyflwynwyd y broses newydd yma am gyfnod cychwynnol o 90 diwrnod, ond ddiwedd mis Awst estynnwyd y cyfnod am bedair wythnos yn rhagor tan 20 Medi. Roedd hynny’n golygu na allai unrhyw denant gael ei droi allan yn gyfreithiol am chwe mis yn ystod y pandemig. Mae’n bosib iddo gael ei ymestyn ymhellach – mae’n bwysig felly bod landlordiaid yn parhau i fod yn ymwybodol o’r sefyllfa.

Ar ben hyn, fe newidiodd y llywodraeth ddeddf fel bod gan y rhan fwyaf o denantiaid gyfnod rhybydd o chwe mis, hyd at fis Mawrth 2021.

Effaith ar landlordiaid                                                                               

Mae hyn yn golygu na all landlordiaid  droi tenant allan, dim ond mewn achosion difrifol, cyn Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae’n eithriadau yn bosib yn yr achosion mwyaf difrifol, megis ymddygiad  gwrthgymdeithasol, troseddwyr trais yn y cartref. Nid yw rhybydd sy’n cael ei gyflwyno cyn Awst 28ain  yn cael ei effeithio gan y newidiadau hyn, a rhaid i’r rhain fod o leiaf tri mis o hyd.

Bydd unrhyw hawliadau meddiant sy’n cael eu cyflwyno cyn 20 Medi yn cael eu dal gan y llys i’w rhestru ar ôl y dyddiad hwnnw.

Symud ymlaen

Mae’n sicr y bydd ôl-groniadau sylweddol yn y Llysoedd Sirol, ble roedd adnoddau yn cael eu gwasgu hyd yn oed cyn y pandemig, felly gall ail-restru dyddiadau gymryd misoedd lawer gyda’r llywodraeth yn cadarnhau hyn i bob pwrpas:

“Pan fydd llysoedd yn ailddechrau gwrandawiadau troi allan byddant yn blaenoriaethu’r achosion mwyaf eithriadol yn ofalus, gan sicrhau bod landlordiaid yn gallu symud yr achosion mwyaf difrifol ymlaen, fel y rhai sy’n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau eraill, yn ogystal ag achosion ble nad yw landlordiaid wedi derbyn rhent am dros flwyddyn ac felly yn wynebu dyledion na ellir eu rheoli. ”

Mae’r llywodraeth yn edrych i helpu landlordiaid sy’n cael eu heffeithio gan yr achosion gwaethaf, fodd bynnag, gyda chyfnodau rhybudd ar gyfer yr achosion mwyaf eithafol yn dychwelyd i lefelau cyn coronafeirws.

Os gwnaeth landlord hawliad i’r llys cyn 3 Awst, rhaid iddynt bellach hysbysu’r llys, a’u tenant, eu bod yn dal i geisio ceisio adfeddiant cyn i’r achos fynd yn ei flaen.

Bydd dyddiadau prawf a osodwyd cyn 27 Mawrth 2020 yn cael eu clirio oni bai bod dogfennau wedi’u ffeilio yn yr achos a bod rhybudd ailgychwyn wedi’i gyflwyno ddim llai na 42 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad.

Bydd methu â ffeilio a chyflwyno rhybudd ailgychwyn erbyn 4pm ar 29 Ionawr 2021 yn golygu bod yr hawliad yn cael ei atal yn awtomatig. Fodd bynnag, os yw’r landlord yn dymuno parhau â’r hawliad ar ôl 29 Ionawr, bydd angen iddo wneud cais i godi’r ataliad.

Related Blogs

View All