Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghymru a’r Gymraeg yw fy iaith gyntaf. Fel cynifer o Gymry eraill, dwi’n dwli ar chwaraeon ac wedi bod yn ddigon ffodus i ddefnyddio fy sgiliau i gynorthwyo chwaraewyr chwaraeon proffesiynol yn ystod trafodaethau telerau cytundebau ac anghydfodau, yn ogystal ag eistedd ar fyrddau a phwyllgorau grwpiau fel Chwaraeon Anabledd Cymru, Badminton Cymru, Pêl Fasged Cymru a nifer o elusennau chwaraeon. Cefais hefyd y fraint o gael fy mhenodi fel cyfreithiwr Tîm Cymru yn ystod Gemau’r Gymanwlad ym Melbourne. Yn fwy diweddar fe wnes i gynrychioli Prydain Fawr (gyda baner Cymru) fel chwaraewr yn nhwrnamaint Rygbi Cyffwrdd y Byd 2019 ym Malaysia.