Article

Awtomatiaeth yn cymryd cam enfawr ymlaen ym myd technoleg amaethyddol

15th March 2022

Yn ddiweddar cyhoeddodd John Deere eu bod wedi creu eu tractor awtomatig cyntaf – tractor sy’n gallu troi cae heb yrrwr. Effeithiolrwydd a diogelwch oedd prif ystyriaethau’r cynhyrchwyr wrth ddylunio a chynhyrchu offer o’r fath. O ran diogelwch, mae’r sector amaeth yn parhau i fod yn un llawer mwy peryglus na sectorau eraill.

Mae’r mater wedi symud yn llawer uwch ar yr agenda gyfreithiol gan fod Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi argymell, erbyn hyn, y dylid penodi gyrwyr yn “ddefnyddwyr sy’n gyfrifol” am gerbydau awtomatig.

Mae gwaith Comisiwn y Gyfraith, sydd bellach yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth, yn cynnwys yr argymhelliad nad ellid erlyn defnyddwyr cyfrifol am droseddau sy’n deillio’n uniongyrchol o’r gwaith o yrru, er hyn maent yn parhau’n gyfrifol am dasgau eraill sy’n ymwneud ag yswiriant, gwneud yn siŵr fod pobl yn gwisgo gwregys diogelwch ac ati.

Er fod offer ffermio awtomatig yn creu pellter rhwng y ffermwr a pheiriannau trwm, ar y llaw arall, mae’r ffermwr hefyd yn ddibynnol ar allu’r dechnoleg i ddod o hyd i beryglon posibl. Beth yw’r prif ystyriaethau cyfreithiol o ran defnyddio a gweinyddu offer o’r fath?

Damweiniau

O ran offer sy’n  gweithio’n awtomatig, mae’n debygol mai’r cynhyrchydd fyddai’n atebol am unrhyw ddamweiniau a achoswyd gan ddiffygion o ran dyluniad neu’r ffordd y mae’r peiriant yn gweithio.

Bydd angen i systemau unrhyw offer sy’n gallu gweithio’n awtomatig neu’n rhannol awtomatig gael eu graddnodi’n ofalus er mwyn sicrhau y gellir symud yn rhwydd, mewn ffordd eglur y gellir ei chofnodi, rhwng dull sy’n ddibynnol ar yrrwr a dull sy’n ddibynnol ar y peiriant.

Diffygion

Mae’n rhaid i unrhyw dractor neu system sy’n cael ei gyflenwi i’r farchnad fod o ansawdd boddhaol. Pe byddai gwallau neu broblemau’n dod i’r amlwg, mae’n bosib y byddwch yn gallu gwneud hawliad ar y sail tor contract. Er hyn, eich cyfrifoldeb chi fydd darparu prawf o dri peth; contract ddilys, prawf fod y gontract wedi ei thorri a’r golled a ddeilliodd o’r sefyllfa dan sylw.

Yn ddibynnol ar y perthnasau cytundebol sydd yn bodoli rhwng cwmnïau, mae’n debygol y byddwch yn troi at y ddelwriaeth neu’r gwneuthurwr. Yn wir, bydd y ddelwriaeth yn ceisio eich gwthio i gyfeiriad y gwneuthurwr.

O ran penderfynu â oes cytundeb wedi ei thorri, yn gyntaf mae’n rhaid edrych ar y telerau dan sylw. Mae’n debygol y bydd y rhain yn cynnwys telerau ysgrifenedig, ac mae’n bosib y byddant yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau a pha gamau cywiro y gellir eu cymryd. At hyn, mae’n debygol y bydd telerau ychwanegol wedi eu hymgorffori yn y gontract yn unol â’r gyfraith.

Prin y mae’r gyfraith yn rheoleiddio contractau busnes i fusnes o’i gymharu â chontractau defnyddwyr. Er hyn, diolch i’r drefn fod rhai telerau’n ymhlyg gan y gyfraith, gan gynnwys teler sy’n nodi fod yn rhaid i dractor fod o “ansawdd boddhaol” ac yn “addas i’r diben”.

Yswiriant

Mae technoleg ffermio’n newid y diwydiant ac yn creu cyfleoedd a risgiau fel eu gilydd i fusnesau amaethyddol. Rydym yn mabwysiadu meddylfryd gwahanol o ran ffermio a swyddogaeth ffermwyr. Bydd yswiriant a rheolaeth risg effeithiol yn ystyriaethau holl bwysig a bydd angen i chi edrych ar y warchodaeth sydd gennych mewn lle yn barod o ran yswiriant eich fferm cyn mabwysiadu technoleg neu broses newydd.

Bydd defnyddio technoleg amaethyddol yn newid arferion ffermio traddodiadol felly pwysig fydd teilwra’r warchodaeth o fewn polisïau er mwyn diwallu anghenion sy’n newid. Mae mwy o ddibyniaeth ar dechnoleg hefyd yn cynyddu’r risg y bydd eich busnes yn cael ei ddifrodi gan ymosodiadau seibr. Meddyliwch am eich dyfeisiau sydd wedi eu cysylltu i’r fewnrwyd neu rwydweithiau eraill, a gwnewch yn siŵr fod data wedi ei warchod rhag unrhyw ymosodiad seibr a allai rwystro eich fferm neu eich systemau rheoli rhag gweithio.

Meddalwedd ac Integreiddio

Gellir gosod swyddogaethau awtomatig mewn rhai tractorau sy’n bodoli’n barod.   Cofiwch, er hyn, nad oes unrhyw fath o dechnoleg heb ei fai, ac mae angen delio â diffygion mewn meddalwedd a diweddariadau wrth iddynt godi.  Mae’n bosib mai dyma’r dechnoleg a fydd yn cael ei ffafrio mewn blynyddoedd i ddod, ond nid dros nos y bydd hyn yn digwydd ac nid doeth yw dibynnu’n llwyr ar dechnoleg awtomatig.  Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun wrth gefn neu offer gwahanol y gellir ei ddefnyddio.

Mae nifer o feysydd o fewn busnesau ac arferion amaethyddol yn elwa o ddatblygiadau mewn technoleg . Er hyn, y prif her sy’n ein wynebu yw sicrhau fod y systemau rhain yn fforddiadwy ac yn hawdd i’w hintegreiddio i strwythurau casglu data presennol ffermydd. Mae canllawiau GPS soffistigedig, hefyd, yn arwain at fwy o gywirdeb o ran gweithrediadau yn y cae, felly diben y dechnoleg yw lleihau’r gweithlu a chynyddu gweithredoedd awtomatig.

Related Blogs

View All