fbpx
HCR Law Events

19 October 2020

Tor perthynas – beth sydd orau i’r plant?

Yn dilyn tor perthynas, mae penderfyniadau anodd i’w gwneud ynglŷn â ble y bydd y plant yn byw, pryd y dylent gael cyswllt â’r rhiant arall, pa drefniadau sydd i’w gwneud ynghylch yr ysgol, gofal meddygol ac ati.

Fel arfer, bydd y rhieni’n gallu cytuno ar y trefniadau hyn ac osgoi ymyrraeth y Llys Teulu. Pan nad yw hyn yn bosib, gall y naill riant neu’r llall wneud cais am Orchymyn Trefniant Plant (CAO), gan ddod â barnwr i mewn i benderfynu pa drefniadau y dylid eu gwneud.

Wrth ystyried p’un ai i wneud CAO, lles y plentyn fydd prif ystyriaeth y llys bob amser.

Rhaid i’r llys dybio, oni bai bod y gwrthwyneb yn dod i’r amlwg, y bydd cynnwys pob rhiant ym mywyd y plentyn dan sylw yn hybu lles y plentyn.

Os yw rhiant yn gallu bod yn rhan o fywyd plentyn mewn ffordd nad yw’n peryglu’r plentyn hwnnw, ac nad yw’r rhagdybiaeth honno’n cael ei gwrthbrofi gan unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb, bydd y llys yn ystyried gwneud gorchymyn cyswllt a allai fod yn:

  • gyswllt uniongyrchol (ble mae’r plentyn yn cael ymweld neu aros efo’r rhiant sy’n cael ei enwi yn y gorchymyn)
  • cyswllt anuniongyrchol (megis trwy lythyr, ffôn neu ebost)
  • goruchwyliaeth / cefnogaeth lle mae angen mesurau diogelwch ar gyfer y plentyn.

Rydym yn hapus i’ch cynghori chi ym mhob maes cyfreithiol sy’n gysylltiedig â thor perthynas, plant a materion ariannol.

Share this article on social media

About the Author
Alex Wilson, Partner, Head of Family Law, Wye Valley

view my profile email me

Alex Wilson is a Cardiff and Ross-on-Wye based solicitor, specialising in family law.

Want news direct to you?

sign up


Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING