Article

Tueddiadau bargeinion ac edrych ymlaen

17th October 2022

Yn ystod 2021 a dechrau 2022, mae taro bargeinion yn y sector technoleg wedi parhau ar gyflymder mawr, o ran maint a gwerth. Roeddem yn falch o gael ein hunain yn rhif un yn y wlad yn safleoedd M&A Experian ar gyfer bargeinion yn ôl maint – arwydd sicr bod piblinell fargen gref, hyd yn oed yn ystod cyfnod ansicr. Yma, rydyn ni’n cymryd cipolwg ar y tueddiadau presennol a’r hyn rydyn ni’n disgwyl ei weld eleni.

Roedd 2021 yn flwyddyn a dorrodd recordiau, gyda’r rhan fwyaf o sectorau’n adlamu ar ôl cyfyngiadau yn deillio o gyfnodau clo lluosog a sgil-effeithiau ehangach yn sgil y pandemig.

Mae’r galw am ddatblygiadau technolegol wedi arwain at gynnydd yn M&A yn y gofod a chyllid cynnar a hwyr fel ei gilydd. Gwelwn y duedd hon yn parhau yn y tymor byr i’r tymor canolig.

Fodd bynnag, mae’n anoddach rhagweld y rhagolygon presennol ar gyfer y tymor hir gyda phrinder sgiliau, chwyddiant yn codi a natur beryglus gwleidyddiaeth fyd-eang. Wedi dweud hynny, technoleg yn aml yw’r un sector sy’n gallu ymateb yn gyflym i aflonyddwch o’r fath, atebion peirianyddol a manteisio ar gyfleoedd lle bynnag y gellir dod o hyd iddynt.

Fel sy’n digwydd bob amser, rydym yn disgwyl gweld y diddordeb cryf gan fuddsoddwyr mewn cwmnïau technoleg yn parhau i mewn i 2022 a thu hwnt ac o ddiddordeb arbennig fydd y busnesau technoleg hynny sy’n arbenigo mewn prosesau cadwyn gyflenwi – yn enwedig y rhai sy’n gallu dal data a dadansoddeg. Mae’n debygol y bydd trawsnewid gweithrediadau digidol yn parhau i fod yn ffocws ac yn sbardun allweddol i fargeinion ar draws pob sector.

Mae cronfeydd ecwiti preifat (PE) a chyfalaf menter (VC) yn parhau i yrru’r gofod technoleg ymlaen ac yn bwrw eu rhwydi’n ehangach hefyd. Banc Datblygu Cymru sy’n parhau i arwain y gad yn lleol ar fuddsoddiadau cyfnod cynnar a dilynol. Fodd bynnag, gyda De Cymru yn gwreiddio’i hun yn gadarn fel canolfan ranbarthol o bwys ar gyfer busnesau technoleg, gwelwn arwyddion cynyddol o ddiddordeb gan VCs o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.

Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno ein cyfres HCR Horizon ar amryw o sianeli cyfryngau cymdeithasol, lle rydym yn siarad ag unigolion allweddol yn y gofod technoleg lleol i gael eu mewnwelediadau a’u harweiniad i’r rhai sy’n dechrau ar eu taith yn y farchnad hyd at y rhai sy’n edrych ar fuddsoddiad dilynol ac yn y pen draw i’r rhai sy’n edrych i ymadael.

Related Blogs

View All