Client Story

Gweithredu’n gyflym wedi trasiedi yn sicrhau bod cleient yn cael cadw eu cartref

16th June 2020

Mae’r ffaith fod Hefin Archer-Williams wedi gweithredu’n gyflym i ofyn i reol gael ei newid wedi golygu bod eu cleient wedi gallu aros yng nghartref y teulu wedi iddi golli ei gŵr yn drasig; yn ogystal, mae hyn wedi creu cynsail cyfreithiol.

Cafwyd y cleient yn euog o achosi marwolaeth ei gŵr drwy yrru’n ddiofal, yn dilyn damwain yn ymwneud â sawl car ar y draffordd. Hi oedd unig fuddiolwr ei ystâd ac roedd y cwpl yn berchen ar eu heiddo fel cyd-denantiaid. Ond, mae rheol fforffedu yn bodoli yng Nghymru a Lloegr, sy’n atal (mewn rhai achosion) rhywun sydd wedi lladd person arall yn anghyfreithlon rhag cael buddion yn sgil y lladd.

Pe byddai’r rheol honno’n berthnasol i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus neu’n ddiofal, ni fyddai ein cleient wedi gallu cadw’r cartref lle’r oedd hi a’i gŵr wedi byw ers sawl blwyddyn, nac unrhyw ran o ystâd ei gŵr. Yn hanesyddol, mae’r rheol wedi’i defnyddio ar gyfer llofruddiaeth, dynladdiad a throseddau dan y Ddeddf Hunanladdiad, ond delir ei bod yn berthnasol hefyd i’r drosedd o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal (ac felly’n beryglus).

Roedd gweithredu’n gyflym yn hanfodol gan nad oedd llawer o amser i wneud cais i’r rheol honno gael ei haddasu – rhaid i hyn gael ei wneud o fewn tri mis i’r euogfarn neu ni ellir addasu neu eithrio’r rheol. Roedd Barnwr yr achos yn cytuno bod cyfiawnder yr achos yn gwneud yr addasiad hwn yn hanfodol, fel y byddai’n medru aros yn ei chartref gan wybod bod ei dyfodol yn ddiogel, a’i bod wedi etifeddu ystâd ei gŵr.

Dywedodd Hefin: “Bydd y datblygiad newydd hwn yn golygu cynnydd mewn ceisiadau, gan fod y rheol wedi’i hystyried yn berthnasol i yrru’n ddiofal neu’n beryglus yn flaenorol, ond mae hi’n hanfodol bod pobl yn gweithredu’n gyflym wedi euogfarn am un o’r troseddau hyn.” Yn wir, yn union wedi’r achos, cafwyd achos arall tebyg yn fuan wedyn.

Related Case Studies

View All