Article

Adnabod eich ffiniau

13th November 2020

Mae llawer o bobl yn cael problemau gyda safle, perchnogaeth a chyfrifoldeb dros ffiniau eu heiddo.

Mae Deddf Cyfraith Eiddo 1925 wedi bod ar waith ers bron i gant o flynyddoedd bellach ac fe’i cyflwynwyd i sicrhau bod yr holl dir yng Nghymru a Lloegr wedi’i gofrestru’n ganolog, gyda Chofrestrfa Tir EM ei hun wedi’i ffurfio 63 mlynedd yn gynharach ym 1862.

Un o gonglfeini’r broses gofrestru yw darparu cynllun teitl sydd, yn achos tir cofrestredig, yn dangos maint y tir mewn perchnogaeth, fel arfer drwy gyfeirio at linell goch. Fodd bynnag, nid yw ffin y teitl ond yn dangos safle cyffredinol y ffin ar sail Map yr Arolwg Ordnans.

O ganlyniad, nid yw cynlluniau teitl yn brawf 100% o ble mae’r union ffin rhwng dau eiddo. Yn wir, yn aml, nid oes cofnod swyddogol o ble mae’r ffin honno.

Y man cychwyn wrth wirio eich ffiniau yw cael copi o’ch cynllun teitl (gan dybio bod eich tir wedi’i gofrestru) gan Gofrestrfa Tir EM. Dylech benderfynu a yw’n cyd-fynd â’r hyn sydd “ar y ddaear” ai peidio.

Os credwch fod anghysondeb, yna gallwch wneud cais i Gofrestrfa Tir EM i ddiwygio eich cynllun teitl. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ymdrin â’r broses hon os oes tebygolrwydd o anghydfod gyda chymydog.

Fel arall, gallwch wneud cais i Gofrestrfa Tir EM i gofnodi’r union ffin rhwng eich eiddo a’ch cymydog. Dylid cynnwys syrfëwr siartredig a bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth, fel arfer o’r gweithredoedd gwreiddiol. Gelwir hyn yn ffin wedi’i chadarnhau. Os bydd eich cymydog yn cytuno â’ch ffin, yna bydd y safle yn cael ei gofnodi ar y teitlau perthnasol. Os nad yw eich cymydog yn gwneud hynny, yna gellir cyfeirio’r mater at y Tribiwnlys Tiroedd i’w ddatrys.

Os nad yw eich eiddo wedi’i gofrestru, bydd angen i chi bennu safle’r ffin o’ch gweithredoedd gwreiddiol drwy wirio’r rhain o safle nodweddion y ffin ar y ddaear. Byddem yn argymell y dylai unrhyw un sy’n berchen ar dir sydd heb ei gofrestru ystyried gwneud cais gwirfoddol i gofrestru am y tro cyntaf. Mae’n aml yn wir bod cynlluniau sydd wedi’u cynnwys mewn gweithredoedd heb eu cofrestru yn debygol o fod yn hen ac nad ydynt yn seiliedig ar gynlluniau presennol yr Arolwg Ordnans.

Mae hyn nid yn unig yn debygol o arbed amser yn y broses drawsgludo yn ddiweddarach, os ydych am werthu neu forgeisi eich eiddo, ond gall hefyd nodi (yn enwedig gyda pharseli mwy o dir) lle y gallai fod tresmasu, naill ai’n anfwriadol neu’n fwriadol.

Nid oes unrhyw reolau cyffredinol ynghylch perchnogaeth nodwedd ffin, p’un ai gwrych, ffens neu wal ydyw – gyda pherchnogaeth yn dod yn gyfrifoldeb i’w chynnal a’i chadw. Dylai’r gweithredoedd sylfaenol roi’r ateb, oherwydd pan werthwyd yr eiddo’n wreiddiol o barsel mwy o dir, mae’r gwerthwr yn debygol o fod wedi aseinio cyfrifoldeb.

Mae deall a gwirio ffiniau eich eiddo yn bwysig gan ei fod yn sicrhau y gellir nodi unrhyw anghysondebau ac yna gellir penderfynu beth yw’r camau gorau y dylid eu cymryd fel eu bod yn cael eu cywiro.

Related Blogs

View All