Article

Camau i atal gwyngalchu arian a hybu tryloywder

6 July 2021

Er mwyn cynyddu tryloywder, cefnogi ymchwiliad i dwyll a helpu i atal gwyngalchu arian, mae angen i bob cwmni cyfyngedig preifat a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gadw cofrestr o bawb sydd â rheolaeth neu ddylanwad sylweddol dros eu cwmni – cofrestr Personau â Rheolaeth Sylweddol (PSC).

Mae angen i’r gofrestr, a ddylai gofnodi’r unigolion a’r endidau cyfreithiol cofrestradwy perthnasol (RLE), gael ei ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, naill ai ar y ffurflen PSC berthnasol, neu wrth ei hymgorffori.

Ond beth yw PSC neu RLE? Bydd PSC neu RLE yn dod o dan un o’r categorïau a ganlyn, fel person neu endid cyfreithiol sydd:

  • yn dal mwy na 25 y cant o’r cyfranddaliadau yn y cwmni
  • yn dal mwy na 25 y cant o’r hawliau pleidleisio yn y cwmni
  • â’r hawl i benodi neu ddileu’r rhan fwyaf o fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni.

Os oes unrhyw un o’r pwyntiau hyn yn berthnasol, rhaid i gwmnïau gofnodi popeth sy’n berthnasol. Os nad oes unrhyw un yn berthnasol, rhaid i’r cwmni symud ymlaen i ystyried a yw unrhyw un o’r isod yn berthnasol:

  • a oes gan unigolyn neu endid cyfreithiol perthnasol yr hawl i arfer, neu yn arfer, dylanwad neu reolaeth sylweddol dros y cwmni
  • lle byddai ymddiriedolaeth neu gwmni yn bodloni un o’r tri amod uchod pe bai’n unigolyn.

Ond nid yw rhwymedigaethau cwmni o dan ofynion PSC yn dod i ben wrth ffeilio’r gofrestr. Rhaid i gwmnïau ddiweddaru gwybodaeth PSC yn Nhŷ’r Cwmnïau o fewn 14 diwrnod i newid i wybodaeth o’r fath a rhaid iddynt hefyd gadarnhau i Dŷ’r Cwmnïau fod y wybodaeth yn parhau’n gywir yn y datganiad cadarnhau blynyddol.

Er ei fod yn faich gweinyddol pellach ar gwmnïau, mae cofrestr PSC yn cefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ymchwilio i wyngalchu arian a thwyll. Mae’r gofrestr hefyd yn rhoi gwybod i ddarpar fuddsoddwyr am ‘reolwyr’ cwmni cyn mynd ymlaen i unrhyw gytundeb ffurfiol.

Mae methu â chyflwyno’r wybodaeth ofynnol yn drosedd, felly mae’n hanfodol bod cwmnïau’n nodi eu PSCs yn brydlon ac yn mabwysiadu cofrestr, y gellir ei diweddaru’n hawdd yng nghofrestrau statudol y cwmni ar gyfer y dyfodol.

Related Blogs

View All