Article

Cudd-arian wrth ysgaru

14 August 2020

Pan fo priodas yn torri i lawr, a bod angen penderfynu ar drefniadau ariannol, mae gan y gŵr a’r wraig ddyletswydd i wneud datgeliad llawn i’r naill a’r llall am unrhyw ddiddordeb sydd ganddynt mewn asedau a rhwymedigaethau. Bydd y rhan fwyaf yn eithaf amlwg – cartref y teulu ac unrhyw eiddo arall, cyfrifon banc, pensiynau ac ati. Nid yw cudd-arian mor gyffredin, ac rydym yn cynghori bod yn bwyllog wrth ymdrin â’r math yma o ased mewn achosion cyfraith teulu, oherwydd ni ellir ei drin yn yr un ffordd â’r rhan fwyaf o asedau eraill.

Yn gyntaf, mae’n bosib nad yw’n hawdd darganfod cudd-arian megis Bitcoin os yw ei berchennog am ei guddio. O ystyried ei fod yn rhithiol ei natur, nid yw’r person gyda’r diddordeb yn meddu ar y cudd-arian, dim ond yr allwedd, neu’r waled digidol sy’n dal yr allwedd, a gallai hwnnw fod ym meddiant trydydd parti.

Gallai dod o hyd i’r lleoliad lle mae’r allwedd wedi’i storio fod yn anodd. Mae’n bosib y bydd angen i berson sy’n dymuno profi presenoldeb cudd-arian ym meddiant rhywun arall gyflwyno tystiolaeth gerbron y llys, megis cyfeiriadau ysgrifenedig atynt mewn negeseuon testun, neu sgrin-luniau o sgrin cyfrifiadur, fel yn achos Vorotynseva v Money-4 Ltd (yn masnachu fel Nebeus.Com) ac eraill, a gwahodd llys i ddod i gasgliad.

Unwaith y sefydlir lle, a sut, mae’r cudd-arian wedi’i storio, yr ystyriaeth nesaf yw cadw’r ased ac mae’n bosib y bydd angen gweithredu ar frys.

Gyda chyfrif banc, gall llys orchymyn gwaharddeb rhewi neu, os oes asedau digonol, gosod diddordebau un parti mewn asedau sydd wedi’u hafradloni yn erbyn rhoi cyfran uwch yn yr asedau sy’n parhau iddynt.

Mae llysoedd Cymru a Lloegr yn ystyried bod cudd-arian yn eiddo, sy’n ei wneud yn amodol ar waharddeb rhewi priodol (h.y. lle gwaherddir parti rhag ymdrin ag ased penodol i’w stopio rhag ei afradloni a rhwystro hawliad rhywun arall i’r ased).

Felly, unwaith y mae modd olrhain y cudd-arian, gall y llys wneud gwaharddeb rhewi priodol yng nghyswllt y waled digidol. Gellir ymestyn hwn i gynnwys dyfais lle mae’r waled cudd wedi’i gadw. Os caiff y cudd-arian ei brynu a’i werthu drwy gyfnewidfa ar-lein, ac felly’n cael ei reoli gan y gyfnewidfa, dylai gwaharddeb rhewi gael ei ymestyn i gynnwys y gyfnewidfa.

Os nad yw’r waled digidol yn cael ei ddal gan gyfnewidfa, ond ar ddyfais megis ffon USB, mae’n bosib y bydd angen bod ym meddiant ffisegol y ddyfais i atal ‘colli’ yr ased, felly mae’n bosib y bydd gorchmynion ar gyfer cystodaeth a chadw yn angenrheidiol hefyd. Gallai’r rhain gadw’r ased ond hefyd galluogi iddynt gael eu dadansoddi gan unrhyw arbenigwyr a gyfarwyddir i adnabod ystod a gwerth y daliad.

Os ydych yn amau bod eich cymar yn cuddio, neu y gallai geisio gwaredu cudd-arian, mae’n hanfodol eich bod yn gweithredu’n gyflym a chael y gorchmynion priodol gan y llys.

Am ragor o wybodaeth ar gadw cudd-arian mewn ysgariad, ac unrhyw ymholiadau cyfraith teulu eraill, cysylltwch â James Grigg ar [email protected] neu ar 07770 656 762.

Related Blogs

View All