Article

Ffermwyr Cymru yn ei chanol hi gyda fforwm ffermio

7th June 2021

 

O fynyddoedd y Carneddau i Sir Forgannwg, daeth ffermwyr Cymru â’u harbenigedd a’u profiad i’n Fforwm Dyfodol Ffermio ym mis Mai i ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o flaen y byd amaeth.

Denodd y gweminar gynulleidfa eang ac roedd yn cwmpasu ystod yr un mor eang o bynciau, o ffermio adfywiol a chynaliadwy, arloesi, ffrydiau ariannu, rheoli amgylcheddol a dulliau cydweithredol o ffermio a’i ddyfodol.

Gareth Wyn Jones oedd ein prif siaradwr ac roedd y ffermwr llaeth trydedd genhedlaeth Abi Reader yn canolbwyntio ar reoli tir ar gyfer y dyfodol. Ymunodd Kate Speke-Adams o’r Wye and Usk Foundation â ni ar gyfer y gweminar, a oedd yn cynnwys trafodaeth banel, grwpiau torri allan a sesiwn holi ac ateb ar y materion cyfreithiol y mae amaethyddiaeth yn eu hwynebu nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Related Blogs

View All