Mae gan weithwyr asiantaeth hawl, o’u diwrnod cyntaf, i gael gwybod am swyddi gwag, i’r un graddau yn union â’r rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r cyflogwr/llogwr yn unol â Rheoliad 13 Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010 (AWR).
Ond a yw’r hawl yma i gael gwybod am swyddi gwag hefyd yn rhoi’r hawl iddynt ymgeisio a chael eu hystyried am y swyddi dan sylw?
Dyma’r cwestiwn a roddwyd ger bron y Llys Apêl yn achos diweddar Kocur v Angard Staffing Solutions Ltd and another [2022] EWCA Civ 189.
Roedd Mr Kocur yn weithiwr asiantaeth a oedd wedi ei aseinio i weithio, mewn modd hyblyg, i’r Post Brenhinol yn unig gan Angard Staffing Solutions Ltd. Hysbysebodd y Post Brenhinol swyddi parhaol ar eu hysbysfwrdd, ond nid oedd Mr Kocur yn gymwys i ymgeisio amdanynt am ei fod yn weithiwr asiantaeth.
Gwnaeth Mr Kocur gwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth, gan honni fod hyn yn dor o Reoliad 13 yr AWR. Dadleuodd y dylid dehongli’r Gyfarwyddeb CE berthnasol, y mae’r AWR yn deillio ohoni, yn ehangach. Dadleuodd y dylai cwmpas yr hawl i gael gwybod gynnwys, hefyd, yr hawl i ymgeisio a chael eich ystyried am y swydd wag.
Honnodd y byddai dehongliad fwy cul yn gwneud Rheoliad 13, mewn gwirionedd, yn ddiwerth. Honnodd y byddai hyn yn mynd yn erbyn egwyddorion gwrth-wahaniaethu’r Gyfarwyddeb, sy’n hybu cydraddoldeb rhwng gweithwyr asiantaeth dros dro a gweithwyr uniongyrchol o ran amodau cyflogaeth.
Anghytunodd y Llys Apêl. Wrth gynnal dyfarniad y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, daethant i’r casgliad nad oes dim yng ngeiriad yr AWR, y Gyfarwyddeb, na’r deunydd sy’n ymwneud â hwy sy’n awgrymu unrhyw beth mwy na’r hawl i gael gwybod am swyddi gwag yn unig.
O dan Reoliad 13 yr AWR: ‘Yn ystod aseiniad, mae gan weithiwr asiantaeth yr hawl i gael gwybod gan y llogwr, am unrhyw swyddi gwag perthnasol sydd gan y llogwr er mwyn rhoi yr un cyfle i’r gweithiwr asiantaeth a gweithiwr cyffelyb i ddod o hyd i waith llawn amser gyda’r llogwr.’
Rhoddodd y Gyfarwyddeb y cyfle i aelod wladwriaethau gynnwys darpariaeth mwy hael o fewn eu deddfwriaethau domestig pe byddent yn dymuno gwneud hynny. Ond, dewisodd y DU beidio â gwneud hynny, ac o ganlyniad, doedd dim o fewn geiriad Rheoliad 13 a awgrymai y dylid gwneud unrhyw beth mwy na’i ddehongli’n llythrennol.
O ran y ddadl ar wahaniaethu, derbyniodd y Llys Apêl fod angen sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau gweithwyr a hawliau cyflogwyr o ran hyblygrwydd, ond ni welsant sail i wneud dim mwy na gwneud dehongliad cul o Reoliad 13.
Mae’r darpariaethau gwrth-wahaniaethu o fewn y Gyfarwyddeb yn tanlinellu fod angen cydraddoldeb o ran amodau gwaith sylfaenol yn unig (megis oriau gwaith, amser ychwanegol, egwyl, gwyliau a thâl). Roed y geiriad yn fwriadol gyfyngedig o ran ei sgôp, ac nid oedd y sgôp dan sylw’n mynd mor bell â chynnwys y ffordd y mae’r broses benodi flaenorol yn gweithio.
Bydd cyflogwyr sy’n defnyddio gweithwyr asiantaeth yn croesawu penderfyniad y Llys Apêl. Bydd yn rhoi hyder iddynt na fyddant yn torri Rheoliad 13 yr AWR wrth beidio â gwneud dim mwy na rhoi gwybod i weithwyr asiantaeth (drwy gyfrwng cyhoeddiad cyffredinol neu hysbyseb yn y man gwaith) am swydd wag. Mae’n bosib y bydd y gweithiwr asiantaeth yn cwestiynu pa fudd yw rhoi gwybodaeth am y swydd wag un unig, ond gellir dadlau y byddai unigolyn yn elwa o gael rhagrybudd o ran asesu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd pe byddai’r cyflogwr yn penderfynu hysbysebu’n allanol.
Elfen bositif arall o safbwynt y cyflogwr yw y bydd rhyddid ganddynt o hyd i ffafrio ymgeiswyr mewnol. Mae hyn yn arfer cyffredin ac yn opsiwn dymunol yn enwedig wrth ddileu swyddi neu sefyllfaoedd eraill. Canfuwyd na ellid gwahaniaethu rhwng achosion yn ymwneud â dileu swyddi; amhriodol yn wir fyddai dehongli Rheoliad 13 mewn modd a fyddai’n gosod gweithwyr asiantaeth, i bob pwrpas, ochr yn ochr â’r gweithwyr parhaol rheiny sy’n ceisio cael eu adleoli.
Mae dyfarniad y Llys Apêl yn achos Kocur yn chwalu unrhyw syniad fod gweithwyr asiantaeth yn gyfartal â gweithwyr parhaol ym mhob ffordd. Mae’n rhaid i gyflogwyr barhau i sicrhau fod parch cyfartal yn cael ei roi i weithwyr asiantaeth a’r rheiny y maent yn eu cyflogi’n uniongyrchol o ran eu gwaith sylfaenol a’u hamodau cyflogaeth. Ond nid yw hyn yn golygu fod yn rhaid ystyried ceisiadau gan weithwyr asiantaeth am swyddi gwag a hysbysebir yn fewnol. Rhoi gwybod am y swydd wag yn unig yw dyletswydd y cyflogwr.