News

HRC yn cynnig gwasanaethau i’r sector gyhoeddus yng Nghymru

22nd January 2021

Lai na blwyddyn ar ôl agor swyddfa yng Nghaerdydd mae HCR wedi ei benodi i fframwaith cyfreithiol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC), fel y gall gynnig gwasanaethau cyfreithiol i’r sector gyhoeddus ar draws Cymru.

Gall ein tîm yng Nghaerdydd nawr roi cyngor cyfreithiol ar faterion cyflogaeth, cynllunio ac amgylcheddol, gan dynnu ar arbenigedd ehangach y cwmni pan fydd angen.

Dywedodd Hefin Archer-Williams, pennaeth swyddfa Caerdydd: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael ein penodi i’r fframwaith. Mae ein llwyddiant gyda’r tendr hwn wedi cryfhau presenoldeb HCR yng Nghymru a bydd yn agor meysydd gwaith newydd i ni yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’r penodiad yn rhoi sêl bendith i’r ffordd ‘rydym yn gweithio a’n hymrwymiad i’n cleientiaid.”