Article

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yma

11 February 2026

Female holding a notepad in an office

Derbyniodd y Bil Hawliau Cyflogaeth Gydsyniad Brenhinol ar 18 Rhagfyr 2025, gan nodi’r cam mwyaf arwyddocaol i ailwampio cyfraith cyflogaeth ers degawdau.

Mae’r Ddeddf newydd yn cryfhau amddiffyniadau presennol gweithwyr, yn tynhau gofynion cydymffurfio i gyflogwyr ac yn creu rheoleiddiwr newydd gyda phwerau ymchwilio a gorfodi pellgyrhaeddol.

Mae’n cyflwyno diwygiadau mawr ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys:

  • Mwy o amddiffyniadau rhag diswyddo annheg – lleihau’r cyfnod cymhwyso o ddwy flynedd i chwe mis o wasanaeth, waeth beth fo’r cyfnod prawf
  • Ehangu hawliau undebau llafur a mynediad i weithleoedd (gan gynnwys busnesau nad ydynt yn rhai undebol) a llacio rhai rheolau pleidleisio a hysbysu presennol
  • Gwneud arferion diswyddo ac ailgyflogi yn anghyfreithlon ar gyfer rhai amrywiadau contract lle mae staff yn gwrthod cytuno i newidiadau arfaethedig
  • Cynyddu hawliau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd, gan wneud rhai darpariaethau presennol yn hawliau o’r diwrnod cyntaf
  • Ymestyn amddiffyniadau gwrth-aflonyddu – ailgyflwyno amddiffyniad rhag aflonyddu gan drydydd parti a’r gwneud yn orfodol i gyflogwyr gymryd “pob cam rhesymol” i atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith
  • Ailwampio trefniadau dim-oriau a’r economi ‘gig’ – rhaid i gyflogwyr gynnig oriau gwarantedig lle mae oriau gwirioneddol gweithwyr yn fwy na’u lleiafswm ar gontract dros gyfnod cyfeirio diffiniedig.

Er bod rhai darpariaethau eisoes wedi dod i rym, bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau yn cael eu cyflwyno’n raddol yn ystod mis Chwefror, Ebrill a Hydref 2026, Ionawr 2027 a thu hwnt.

Sut allwn ni helpu

Er mwyn helpu busnesau i baratoi ar gyfer y datblygiadau hyn, rydym wedi lansio ein Hwb Deddf Hawliau Cyflogaeth.

Mae’r adnodd allweddol hwn yn cynnwys rhagor o fanylion am y newidiadau, mapiau ffordd ar gyfer gweithredu a chamau ymarferol y mae angen i fusnesau eu cymryd nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Hwb yn darparu diweddariadau ar y newidiadau a’r datblygiadau diweddaraf.

Rydym hefyd yn barod i gefnogi sefydliadau i fynd i’r afael â’r newidiadau hyn trwy sesiynau hyfforddi a syrjeris pwrpasol.

Mae disgwyl i 2026 fod yn flwyddyn brysur o newid, felly gwnewch yn siŵr bod eich busnes yn barod.

How can we help you?

Related articles

View All