Article

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

7 April 2021

Bydd nifer o ffermwyr a busnesau amaethyddol yng Nghymru yn ymwybodol fod cyfnod ymgynghori ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn agored hyd at y 25ain o Fawrth, 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y fframwaith deddfwriaethol i gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru, gwahoddir sylwadau ar gynigion cefnogaeth amrywiol i’r dyfodol; diwygiadau rheoleiddiol; cefnogaeth i’r sector a’r gadwyn gyflenwi yn y dyfodol ynghyd a gwella iechyd a lles anifeiliaid ayyb.

Mae’r Papur Gwyn ynghyd a’r gwaith polisi sydd wedi ei gynnal hyd yma yn cynrychioli’r hyn fydd y newid mwyaf mewn polisi amaethyddol ers degawdau.  Ceir amlinelliad o fwriad am ddeddfwriaeth sylfaenol a sylfaen y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), sydd i’w gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd. Bydd llawr mwy o fanylion yn dilyn am y cynllun i’r dyfodol fydd yn cael ei amlinellu yn yr is-ddeddfwriaeth.

Mae’r Papur yn gosod gweledigaeth 15-20 mlynedd i greu sector amaethyddol gynaliadwy, gan fanylu ar gynlluniau ar sut bydd ffermwyr yn cael eu cefnogi i ‘gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy’. Bydd cynigion yn gweld amnewid y Cynllun Taliad Sylfaenol (CTS) a’r cynlluniau amaeth-amgylchedd gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) newydd. Mae’r cynllun yn ceisio rhoi gwir werth ar yr allbynnau amgylcheddol mae ffermwyr yn eu gwireddu (gwella priddoedd, aer glan, dŵr glan, gwella bioamrywiaeth a gweithgarwch i ostwng cynhesu byd eang) ynghyd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Bydd ymgynghori ar greu isafswm safonau ar gyfer amaethyddiaeth, fydd wedi ei gefnogi gan drefn gorfodaeth newydd fydd yn cynnwys amrediad o sancsiynau sifil yn ddibynnol ar achosion unigol gyda’r posibilrwydd o sancsiynau troseddol ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol neu ail-droseddu. Cymesuredd yw’r gair allweddol.

Mae’n hanfodol bwysig i gynllunio ymlaen i ddeall y newidiadau i’r sector, i warchod a diogelu busnesau at y dyfodol. Gall ein tîm amaethyddol gynnig cyngor ymarferol a masnachol o fewn cyd-destun y newidiadau a’r cyfleoedd yma.

Ymunwch a ni i ystyried dyfodol y sector yn ein Fforwm Ffermio i’r Dyfodol ar yr 11eg o Fai 2021; archebwch le yma.

Related Blogs

View All