Yn barod ar gyfer Wythnos Tech Cymru gydag arbenigedd parodrwydd i fuddsoddi a blockchain
14 July 2020
Wrth gymryd rhan yn Wythnos Tech Cymru rhwng 13 a 17 Gorffennaf, bydd Nicola McNeely, Pennaeth y Sector Technoleg, Partner yn ein tîm yng Nghaerdydd ac aelod o Gyngor Arweinyddiaeth Cysylltiedig Technoleg, yn ychwanegu ei harbenigedd blockchain a thechnoleg buddsoddi mewn tri digwyddiad yn ystod yr wythnos.
Ddydd Llun, 13 Gorffennaf am hanner dydd, bydd yn helpu i lansio Blockchain Connected, rhwydwaith neilltuol newydd i annog a chefnogi datblygu technoleg blockchain yng Nghymru. Er mwyn gwylio’r sesiwn, cliciwch yma.
Ddydd Mercher, 15 Gorffennaf, bydd Nicola hefyd yn siarad mewn gweminar Busnes Cymru, gan ganolbwyntio ar helpu busnesau i wneud eu hunain yn barod i fuddsoddi fel y gallant gymryd y cam nesaf wrth dyfu. Rhwng 9am a 10.30am, gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn yma.
Os golloch chi Nicola erbyn i chi ddarllen hwn a bod gennych ddiddordeb mewn sesiynau eraill gwelwch fwy yma. Ar ôl y digwyddiad gallwch weld cynnwys dilynol gan ddefnyddio’r un linc.