fbpx
HCR Law Events

7 June 2021

Cefnogi Cerebral Palsy Cymru gydag arbenigedd

 

Rydym wedi cyfuno ein cryfderau y mis hwn er mwyn cynorthwyo Cerebral Palsy Cymru, drwy gefnogi eu cynllun ysgrifennu ewyllysiau a rhoi cyngor ar sut y gellir diwallu anghenion cyfreithiol eraill hefyd.

Eglurodd Nerys Thomas, o dîm ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau’r cwmni, yng nghylchlythyr yr elusen pam bod cynllunio ymlaen llaw mor bwysig – bydd hi a David King o’n tîm ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau yn hepgor eu ffioedd i wneud ewyllysiau syml i bobl sydd am gefnogi’r elusen gyda rhoddion yn lle hynny.

Yr isafswm rhodd yw £140 (a TAW) ar gyfer un ewyllys syml (£280 a TAW fel arfer) ac isafswm rhodd o £225 (a TAW) ar gyfer pâr o ewyllysiau ‘drych’ sylfaenol (£450 a TAW fel arfer).

Dyma gyfle i wneud ewyllys ac ar yr un pryd gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd.

Gwneud ewyllys

Dywedodd Nerys: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Cerebral Palsy Cymru gyda chynnig ewyllysiau mis Mehefin.

Gwneud ewyllys yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i sicrhau y darperir ar gyfer eich anwyliaid pan fyddwch yn marw. Os byddwch yn marw heb adael ewyllys ddilys, bydd eich ystâd yn cael ei dosbarthu yn unol â rheolau cyfreithiol llym a elwir yn reolau diewyllysedd.

Mae’r rhain yn pennu sut y bydd eich ystâd yn cael ei rhannu ymhlith eich perthnasau ac efallai na fydd bob amser yn darparu ar gyfer yr anwyliaid y byddech wedi dymuno iddynt elwa. Er enghraifft, nid yw’r rheolau diewyllysedd yn cydnabod cyplau di-briod na phartneriaid sifil – ac nid ydynt ychwaith yn darparu ar gyfer llysblant.

Felly, bydd ewyllys yn eich galluogi i reoli pwy sy’n cael beth pan fyddwch yn marw ac yn rhoi tawelwch meddwl i’r rhai sydd agosaf atoch y darparwyd ar eu cyfer yn briodol. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig lle y gallai fod gennych blant ifanc, os ydych yn dymuno darparu ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth ac os oes angen diogelu eich ystâd ar eu cyfer yn y tymor hwy.

Mae delio ag ystâd lle ceir ewyllys fel arfer yn llawer symlach, rhatach ac yn llai o straen nag ystâd lle nad oes un. Yn absenoldeb ewyllys, mae teuluoedd yn aml yn cael eu gadael yn meddwl, yn syth ar ôl colli eu hanwyliaid, tybed pwy fydd yn gyfrifol am ddelio â’r ystâd a sut y caiff yr ystâd honno ei dosbarthu. Bydd ewyllys yn cael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw ac yn rhoi gwybod i deuluoedd ble yn union maen nhw’n sefyll o’r cychwyn cyntaf.”

Help a chefnogaeth pan fydd eu hangen arnoch fwyaf

Hefyd yn helpu’r elusen mae Ally Taft o’r chwaer-gwmni Medical Accident Group, sy’n cynnig cyngor ar sut y gallant helpu’r rhai sydd â Pharlys yr Ymennydd, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Dywedodd: “Gofynnir yn aml i ni gynghori rhieni ar gynlluniau addysg, iechyd a gofal, dogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion addysgol, iechyd a gofal cymdeithasol arbennig plentyn neu berson ifanc ac sy’n esbonio’r cymorth ychwanegol a roddir i ddiwallu’r anghenion hynny. Gallwn helpu i apelio yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol i beidio â rhoi un ar waith neu herio cynnwys cynllun sy’n bodoli eisoes.

“Gallwn hefyd gynrychioli teuluoedd lle mae anaf difrifol yn ystod genedigaeth wedi achosi parlys yr ymennydd. Er enghraifft, fe’m cyfarwyddwyd i weithredu dros Sam, yr oedd ei barlys yr ymennydd yn deillio o gamgymeriad yn ystod llawdriniaeth ar y galon.

“Mae Sam bellach yn ei arddegau, mae mewn addysg amser llawn ac mae’n llwyddiannus iawn yn academaidd; mae ei rieni bellach yn teimlo’n ddiogel bod ganddo bellach ofal, offer a llety o ansawdd uchel a sicrwydd ariannol am oes.”

Share this article on social media

About the Author
David King, Partner (TEP)

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


What is the future of the office?

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING