fbpx
HCR Law Events

17 October 2022

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Effaith ar gytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd

Yn 2012, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am symud ymlaen gyda gweithredu deddfwriaeth a oedd yn bwriadu symleiddio’r gyfraith o amgylch rhentu cartrefi yng Nghymru.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, pasiwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (RHWA 2016) gyda’r nod o foderneiddio a symleiddio’r ddeddfwriaeth bresennol. Bydd yr effaith yn  diwygio’n sylweddol y sail y mae eiddo preswyl yn cael ei osod arni a bydd oblygiadau ehangach i berchnogion eiddo sydd ag elfen breswyl fel rhan o’u gweithrediadau busnes.

Y bwriad yw y bydd RHWA 2016 yn cael ei gweithredu’n llawn ym mis Rhagfyr 2022 a’r goblygiadau allweddol yn dilyn y gweithredu yw:

  • Creu dau fath newydd o gontract meddiannaeth:
  1. contract safonol, wedi’i fodelu ar y denantiaeth fyrddaliadol sicr bresennol (AST); a;
  2. chontract diogel, wedi’i fodelu ar y denantiaeth ddiogel bresennol a roddir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.

Os yw tenantiaeth neu drwydded yn bodloni meini prawf penodol bydd yn gontract meddiannaeth ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau RHWA 2016. O ganlyniad, rhagwelir y bydd hyn yn trosi’r mwyafrif o’r cytundebau presennol ar gyfer meddiannaeth breswyl, gan gynnwys trwyddedau a chytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd, yn gontractau meddiannaeth.

Beth yw cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd?

Mae angen cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd pan fo cyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr breswylio mewn eiddo sy’n eiddo i’r cyflogwr er mwyn gweithredu dyletswyddau’r gweithiwr yn well. Mae’r cytundeb yn creu trwydded sy’n bersonol i’r gweithiwr.

Fel arfer, mae’r tymor a nodir o fewn cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn ddibynnol ar gyflogaeth, felly daw’r cytundeb i ben ar ddiwedd cyflogaeth y gweithiwr.

Adran 7 RHWA 2016

Mae adran 7 o RHWA 2016 yn nodi’r mathau o denantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth. I grynhoi bydd trwydded yn cael ei “throsi” i gontract meddiannaeth os yw’r holl bwyntiau a ganlyn yn berthnasol:

  • Mae rhent neu ystyriaeth arall (megis darparu gwasanaeth) yn daladwy oddi tano i’r Landlord.
  • Fe’i gwneir rhwng landlord ac unigolyn (neu ddau neu fwy o bersonau, ac mae o leiaf un ohonynt yn unigolyn).
  • Mae’n rhoi’r hawl i’r unigolyn(ion) feddiannu annedd fel cartref.

Goblygiadau

Tenantiaid

Bydd y gyfraith newydd yn gwneud rhentu’n haws ac yn rhoi mwy o ddiogelwch.

I ddeiliaid contract, bydd hyn yn golygu:

  • derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau
  • cynnydd yn y cyfnod rhybudd ‘dim bai’ o ddau i chwe mis
  • mwy o amddiffyniad rhag cael eich troi allan
  • gwell hawliau olyniaeth, mae’r rhain yn nodi pwy sydd â hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i’r tenant presennol farw
  • trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud yn haws ychwanegu neu ddileu eraill i gontract meddiannaeth

Landlordiaid

  • System symlach, gyda dau fath o gontract: ‘Diogel’ i’r sector rhentu cymdeithasol a ‘Safonol’ ar gyfer y sector rhentu preifat.
  • Sicrhau bod cartrefi yn addas i bobl fyw ynddyn nhw (FFHH). Bydd hyn yn cynnwys profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio yn cael eu gosod.
  • Gellir adfeddiannu eiddo sydd wedi’u gadael heb fod angen gorchymyn llys.

Casgliad

Mae’n ymddangos y bydd cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn dod yn gontract meddiannaeth yn dilyn gweithredu RHWA 2016.

Dylai perchnogion busnesau sydd â chytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd presennol fod yn ymwybodol y bydd darpariaethau rhybudd mewn cytundebau presennol o bosib yn cael eu hymestyn i chwe mis.

O ran delio â chytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd yng Nghymru hyd nes bydd y ddeddfwriaeth wedi’i gweithredu, rydym o’r farn mai’r ffordd orau yw drafftio’r cytundebau fel y maen nhw gyda chynllun i adolygu’r cytundeb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi contractau model.

Share this article on social media

About the Author
Arran Bhatti, Solicitor

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


What is the future of the office?

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING