Article

Rhyddhad i amaethyddiaeth yn y cytundeb masnach Brexit

4th February 2021

Yn ffodus, nid yw’r senario brawychus a’r goblygiadau trychinebus i’r diwydiant cig eidion a chig oen o Brexit heb gytundeb, a’r tariffau uchel a fyddai’n wynebu allforion i Ewrop, a drafodwyd yn fy erthygl yr hydref diwethaf ac y cyfeiriwyd atynt yn The Guardian ar 30 Tachwedd, wedi’u gwireddu, er bod anawsterau’n parhau.

Daethpwyd i gytundeb masnach Brexit ac felly daeth y Nadolig i’r diwydiant amaethyddol, ffaith a gydnabuwyd hefyd gan lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.

Roedd ymhlith undebau ffermwyr ac arweinwyr busnes yng Nghymru a groesawodd gytundeb, gan fynegi rhyddhad wrth ddianc rhag gosod tariffau uchel. Byddai tariffau o’r fath wedi taro’r diwydiant amaethyddol pan oedd eisoes yn mynd drwy newidiadau enfawr, gyda dileu cymhorthdal yn raddol a newid yng nghyllid ffermydd yn gysylltiedig â chyfalaf naturiol ac ati.

Dywedodd dirprwy lywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Aled Jones bod y cytundeb yn “hirddisgwyliedig” ond y byddai “ffrithiant ar y ffin ar ôl Brexit.” Dywedodd: “Bydd problemau beth bynnag allai fod yn y print mân yn sylweddol.”

“Bydd yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni weithio arno – yn ddi-os y flwyddyn gyntaf, neu’r chwe mis cyntaf, fydd y gwaethaf mae’n debyg – gan sicrhau y gallwn fynd drwy’r gwaith papur, y fiwrocratiaeth dan sylw, fel cenedl fasnachu.”

Galwodd prif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, y cytundeb yn “newyddion ardderchog” ond dywedodd na fyddai’n ddim byd tebyg i fasnachu gyda’r UE fel aelod llawn. Tynnodd sylw at y ffaith y bydd arolygiadau ar y ffin, mwy o waith papur o ran allforion ac ardystio iechyd ac felly, mwy o ffrithiant ar y ffin.

Mae goblygiadau llawn y cytundeb yn dal i gael eu dadansoddi, ond bydd rhywfaint o fiwrocratiaeth yn cynyddu, a bydd yn ffordd galed, gyda rhai problemau sylweddol o ran ymsefydlu yn cael eu profi ar hyd y ffordd. Gan roi’r materion hyn o’r neilltu, gall ffermwyr a phroseswyr anadlu ochenaid o ryddhad ar y cyfle euraid sy’n bodoli’n awr i ddatblygu masnach broffidiol yn absenoldeb tariffau llym.

Nid oes amheuaeth na all cig eidion a chig oen Cymru ffynnu, a gellir meithrin a datblygu perthnasoedd allweddol er budd terfynol y defnyddiwr sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu ein safonau uchel o ran cynaliadwyedd, llesiant a gallu i olrhain o’r fferm i’r fforc.

Os gall ein tîm amaethyddiaeth a materion gwledig arbenigol eich helpu, wrth i chi gynllunio ymlaen llaw, cysylltwch â Bryn Thomas ar [email protected] neu ar 07715 060 321.

Related Blogs

View All