fbpx
HCR Law Events

5 February 2021

Sut a ble y byddwn yn gweithio yn y dyfodol?

Ydych chi’n dyheu i fynd yn ôl i’r swyddfa? Ynteu ydych chi wrth eich bodd yn gweithio yn eich lle eich hun gartref? Pa fath o gydbwysedd gwaith fydd yn gynhyrchiol i chi ac i’ch cyflogwr pan fyddwn i gyd yn gallu dychwelyd i’r swyddfa? Mae’r cwestiynau hyn nid yn unig yn bynciau llosg yn y cyfryngau, maent hefyd yn ganolog i’n hadroddiad arweinyddiaeth meddwl, Future Workspaces.

Siaradodd Nerys Thomas â BBC Radio Cymru am yr adroddiad yr wythnos diwethaf; mae’n edrych nid yn unig ar y math o weithfannau y bydd arnom eu heisiau a’u hangen, ond hefyd y cwestiwn dadleuol o gymudo a’r risg gynyddol o seiberymosodiadau wrth i weithwyr weithio gartref yn fwy.

Mae’n bosibl bod Covid-19 wedi arwain at newid hirdymor yn ein hagweddau at weithio’n hyblyg neu weithio hybrid ac at faterion seilwaith megis trafnidiaeth, cynllunio trefi a dylunio ac adeiladu swyddfeydd; mae’r rhain yn bynciau a fydd yn effeithio arnom i gyd mewn rhyw ffordd.

Share this article on social media

About the Author
David King, Partner

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


What is the future of the office?

show me more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING