Article

Tîm Corfforaethol Caerdydd yn parhau i dyfu yn dilyn penodiadau newydd

17th April 2023

Mae tîm Corfforaethol Caerdydd HCR yn parhau i dyfu gyda phenodiad diweddar Cyfreithiwr Cyswllt a swyddog Paragyfreithiol newydd gan fynd â’r tîm sy’n ennill ffi i bump.

Mae tîm Corfforaethol Caerdydd wedi bod yn adeiladu enw da yn y farchnad ar gyfer cyflawni trafodion ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2020. Dan arweiniad y Partner Martyn Davies, mae’r tîm yn arbenigo mewn caffaeliadau, gwarediadau, buddsoddiadau cyfalaf menter a mentrau ar y cyd.

Penodiadau diweddar i’r tîm yw Delyth Evans, cyfreithiwr corfforaethol profiadol sydd wedi’i phenodi’n Gyfreithiwr Cyswllt a Declan Turner, swyddog Paragyfreithiol profiadol, sy’n ymuno gyda dyheadau o sicrhau cytundeb hyfforddi gyda’r cwmni.

Cyn HCR, bu Delyth yn gweithio mewn cwmni masnachol blaenllaw yng Nghasnewydd, gan ganolbwyntio ar waith corfforaethol a masnachol, ac mae Declan yn ymuno o LG Williams & Prichard.

Daw’r ddau benodiad diweddaraf yn dilyn penodiad y partner Theresa Grech ym mis Mawrth 2022. Daw Theresa, a oedd yn arfer bod yn bennaeth ar dîm corfforaethol Cymru yn Ince, â chryn gyfoeth o brofiad ac arbenigedd, ac mae wedi gweithio ar sawl trafodiad proffil uchel, cymhleth yn ei deuddeg mis cyntaf. Uchafbwynt nodedig oedd gwerthiant diweddar Alltrust, darparwr blaenllaw pensiynau personol hunan-fuddsoddi (SIPP) a chynlluniau hunan-weinyddu bach (SSAS), i ymddiriedolaeth a chwmni pensiwn yn Guernsey, The UAP Group.

Dywedodd Martyn Davies:

“Dwi’n falch iawn o’r hyn ry’n ni’n ei adeiladu yng Nghaerdydd, yn y tîm corfforaethol a’r swyddfa gyfan. Rydym wedi cyflawni cryn dipyn dros y tair blynedd diwethaf ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf pellach. Mae’n wych dod â phobl sydd eisiau bod yn rhan o’r cynlluniau hynny i mewn, cyfrannu at y diwylliant a helpu i gefnogi ein cleientiaid a’n cydweithwyr gwerthfawr.”

Mae HCR yn gwmni cyfreithiol sydd yn y 60 uchaf gyda thîm corfforaethol sylweddol gyda dros 20 o bartneriaid yn gweithredu ar draws Cymru a Lloegr ac yn ddiweddar roedd yn 1af yn y DU ar gyfer nifer y cytundebau yn 2022.

Related Blogs

View All