Article

Y peryglon o wneud ewyllys cartref

1st September 2021

 

A allaf wneud ewyllys gartref?

Yr ateb syml yw, gallwch; mae’n bosibl drafftio ewyllys eich hun gartref sy’n ddilys os yw wedi’i drafftio, ei lofnodi a’i dystio yn gywir. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i benodi cyfreithiwr i ddrafftio’ch ewyllys a bydd llawer o bobl yn ystyried gwneud ewyllys fel hyn i arbed costau, gan ddefnyddio templedi neu becynnau sydd ar gael ar-lein gan amrywiol gwmnïau stryd fawr.

Fodd bynnag, er y gallai gwneud ewyllys gartref arbed rhywfaint o arian i chi nawr, gall nifer o faterion godi sy’n aml yn gallu bod yn gostus iawn yn y tymor hir.

 

Beth yw’r peryglon posib?

Mae ewyllys ond yn ddilys os yw wedi’i ddrafftio, ei lofnodi a’i dystio yn briodol yn unol â darpariaethau Deddf Ewyllysiau 1837. Er enghraifft, un ddarpariaeth o’r fath yw bod yn rhaid i’r ewyllys gael ei lofnodi gan yr ewyllysiwr (y sawl sy’n gwneud yr ewyllys) a dau dyst annibynnol.

Mae yna ystyriaethau pwysig hefyd yn ymwneud â gallu meddyliol yr ewyllysiwr ac a ydyn nhw’n gwybod ac yn cymeradwyo cynnwys yr ewyllys. Y risg wrth wneud ewyllys gartref yw y bydd y rheolau caeth hyn yn cael eu hanwybyddu, neu bydd gwallau yn cael eu gwneud a allai arwain at her yn y dyfodol neu ei ystyried yn annilysOs yw ewyllys sydd wedi ei drafftio gartref yn cael ei ystyried yn annilys, gallai effeithio’n sylweddol ar y ffordd y mae eich ystâd yn cael ei rannu. Efallai bod eich anwyliaid, y byddech chi wedi bod eisiau iddynt elwa, yn derbyn cryn dipyn yn llai neu hyd yn oed ddim byd o gwbl, o’i gymharu â’r hyn y bydden nhw wedi’i dderbyn pe bai ewyllys ddilys mewn lle. Gall hyn arwain at anghydfodau teuluol ac achos llys, sydd nid yn unig yn arwain at gostau sylweddol (a allai yn ei dro dynnu o werth yr ystâd) ond hefyd yn achosi straen a phryder i’ch perthnasau.

Nid yw ewyllys cartref yn debygol o fod wedi ystyried materion allweddol fel lliniaru treth etifeddiaeth posib neu gynnwys darpariaethau i amddiffyn yr ystâd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol neu fuddiolwyr bregus. Nid fyddai neb yn hoffi’r posib y bydd eu hystâd yn talu treth etifeddiaeth diangen neu etifeddiaeth buddiolwr bregus yn cael ei gymryd i dalu am ffioedd gofal oherwydd na chynhwyswyd darpariaeth ymddiriedolaeth priodol yn yr ewyllys. Mae’r rhain yn faterion y mae posib eu hosgoi yn rhwydd gydag ewyllys wedi’i drafftio’n iawn.

 

A yw ewyllys wedi’i gwneud gartref fyth yn briodol?

Gall ewyllys cartref fod yn briodol yn yr amgylchiadau mwyaf syml ond, hyd yn oed wedyn, mae angen bod yn ofalus gan ei bod mor hawdd cael pethau’n anghywir a llunio dogfen sy’n annilys yn y pen draw.

 

Beth os oes gen i ewyllys cartref eisoes?

Os mai dyma’r achos, cymerwch gyngor i sicrhau bod y ddarpariaethau’n briodol ar gyfer eich anghenion. Os nad yw cyfreithiwr yn ystyried bod eich ewyllys cartref bresennol yn ddigonol, bydd yn eich cynghori ynghylch yr hyn y dylech fod wedi’i roi mewn lle ac yn paratoi ewyllys newydd i chi.

Yn wahanol i’r gred boblogaidd, mae gwneud ewyllys trwy gyfreithiwr yn rhad ar y cyfan ac yn sicr yn llawer llai costus nag y bydd delio gydag ewyllys annilys neu anghydfod yn nes ymlaen. Bydd cael cyngor cyfreithiol cywir hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i chi a’ch anwyliaid y bydd eich dymuniadau’n cael eu cyflawni pan fyddwch chi’n marw ac na fydd eich perthnasau’n cael eu gadael i ddatrys llanast y gellir fod wedi ei osgoi.

Related Blogs

View All