Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Effaith ar gytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd
17 October 2022
Yn 2012, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod am symud ymlaen gyda gweithredu deddfwriaeth a oedd yn bwriadu symleiddio’r gyfraith o amgylch rhentu cartrefi yng Nghymru.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, pasiwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (RHWA 2016) gyda’r nod o foderneiddio a symleiddio’r ddeddfwriaeth bresennol. Bydd yr effaith yn diwygio’n sylweddol y sail y mae eiddo preswyl yn cael ei osod arni a bydd oblygiadau ehangach i berchnogion eiddo sydd ag elfen breswyl fel rhan o’u gweithrediadau busnes.
Y bwriad yw y bydd RHWA 2016 yn cael ei gweithredu’n llawn ym mis Rhagfyr 2022 a’r goblygiadau allweddol yn dilyn y gweithredu yw:
- Creu dau fath newydd o gontract meddiannaeth:
- contract safonol, wedi’i fodelu ar y denantiaeth fyrddaliadol sicr bresennol (AST); a;
- chontract diogel, wedi’i fodelu ar y denantiaeth ddiogel bresennol a roddir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.
Os yw tenantiaeth neu drwydded yn bodloni meini prawf penodol bydd yn gontract meddiannaeth ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau RHWA 2016. O ganlyniad, rhagwelir y bydd hyn yn trosi’r mwyafrif o’r cytundebau presennol ar gyfer meddiannaeth breswyl, gan gynnwys trwyddedau a chytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd, yn gontractau meddiannaeth.
Beth yw cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd?
Mae angen cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd pan fo cyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr breswylio mewn eiddo sy’n eiddo i’r cyflogwr er mwyn gweithredu dyletswyddau’r gweithiwr yn well. Mae’r cytundeb yn creu trwydded sy’n bersonol i’r gweithiwr.
Fel arfer, mae’r tymor a nodir o fewn cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn ddibynnol ar gyflogaeth, felly daw’r cytundeb i ben ar ddiwedd cyflogaeth y gweithiwr.
Adran 7 RHWA 2016
Mae adran 7 o RHWA 2016 yn nodi’r mathau o denantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth. I grynhoi bydd trwydded yn cael ei “throsi” i gontract meddiannaeth os yw’r holl bwyntiau a ganlyn yn berthnasol:
- Mae rhent neu ystyriaeth arall (megis darparu gwasanaeth) yn daladwy oddi tano i’r Landlord.
- Fe’i gwneir rhwng landlord ac unigolyn (neu ddau neu fwy o bersonau, ac mae o leiaf un ohonynt yn unigolyn).
- Mae’n rhoi’r hawl i’r unigolyn(ion) feddiannu annedd fel cartref.
Goblygiadau
Tenantiaid
Bydd y gyfraith newydd yn gwneud rhentu’n haws ac yn rhoi mwy o ddiogelwch.
I ddeiliaid contract, bydd hyn yn golygu:
- derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau
- cynnydd yn y cyfnod rhybudd ‘dim bai’ o ddau i chwe mis
- mwy o amddiffyniad rhag cael eich troi allan
- gwell hawliau olyniaeth, mae’r rhain yn nodi pwy sydd â hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i’r tenant presennol farw
- trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud yn haws ychwanegu neu ddileu eraill i gontract meddiannaeth
Landlordiaid
- System symlach, gyda dau fath o gontract: ‘Diogel’ i’r sector rhentu cymdeithasol a ‘Safonol’ ar gyfer y sector rhentu preifat.
- Sicrhau bod cartrefi yn addas i bobl fyw ynddyn nhw (FFHH). Bydd hyn yn cynnwys profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio yn cael eu gosod.
- Gellir adfeddiannu eiddo sydd wedi’u gadael heb fod angen gorchymyn llys.
Casgliad
Mae’n ymddangos y bydd cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn dod yn gontract meddiannaeth yn dilyn gweithredu RHWA 2016.
Dylai perchnogion busnesau sydd â chytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd presennol fod yn ymwybodol y bydd darpariaethau rhybudd mewn cytundebau presennol o bosib yn cael eu hymestyn i chwe mis.
O ran delio â chytundebau meddiannaeth yn rhinwedd swydd yng Nghymru hyd nes bydd y ddeddfwriaeth wedi’i gweithredu, rydym o’r farn mai’r ffordd orau yw drafftio’r cytundebau fel y maen nhw gyda chynllun i adolygu’r cytundeb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi contractau model.