Article

Beth sy’n digwydd yn y farchnad datblygu tai ac eiddo masnachol wrth i’r cyfnod clo ddechrau llacio?

14th July 2020

Ym mis Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull graddol i lacio rheolau’r cyfnod clo. Bydd rhywfaint o normalrwydd yn dychwelyd wrth i siopau dianghenraid agor, ac wedi hynny bariau a bwytai.

Tra bod Lloegr wedi bwrw ymlaen ychydig yn gynt, mae rhyw synnwyr cyffredinol o ‘aros i weld’ yn parhau yng Nghymru. Fodd bynnag, yr unig ffordd o ystyried y llacio yw dechrau ar gyfres o fesurau sydd wedi’u cynllunio i adfer yr economi. Mae hyn wedi’i danategu gan obaith ein bod bellach yn symud i senario lle gall yr economi weithredu law yn llaw â phresenoldeb y feirws.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r farchnad dai yng Nghymru?

Mae pethau wedi troi cornel ac mae’r farchnad breswyl yn araf ddeffro oherwydd bod pobl yn medru prynu a gwerthu tai unwaith eto.

Wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo, mae’n debygol y bydd ein ffordd o edrych ar fywyd wedi newid. Mae’n bosib y bydd rhai perchnogion tai eisiau symud – gallai byw o fewn yr un pedair wal ddydd ar ôl dydd fod wedi’u hysgogi i symud. Mae’n bosib bod eraill wedi treulio’r amser yn ail-addurno a chwympo mewn cariad gyda’u cartref unwaith eto.

Pan ddaw hi i’r math o dai y mae prynwyr yn chwilio amdanynt, mae’n rhaid dechrau ystyried effaith “gweithio o gartref” y cyfnod clo. Mae cyflogwyr yn debygol o addasu i ddull hyblyg gan ganiatáu gweithio o gartref, sy’n golygu y bydd tai gyda lle am swyddfa cartref yn fwy deniadol.

Mae dyluniad tai yn debygol o newid – eisoes mae symudiad i sicrhau bod tai newydd yn effeithlon o ran ynni ac mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd drwy ei chefnogaeth i gynlluniau o’r fath.

Mae datblygwyr wedi defnyddio’r cyfnod clo yn ddoeth – rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cytundebau opsiwn a thrafodion amodol sy’n cael eu hystyried. Mae hyn yn debygol o barhau.

Beth mae hyn yn ei olygu i eiddo masnachol yng Nghymru?

Yn y byd eiddo masnachol, gellir gweld yr un gobaith gofalus. Yn y sector hamdden, bydd agor cyfleusterau cyhoeddus, bariau a bwytai yn raddol yn dod â thonic y mae gwir ei angen i sector sydd wedi’i atal. Gall y stryd fawr ddisgwyl cynnydd mewn busnes wrth i bobl ddychwelyd i siopa a rhyngweithio cymdeithasol sydd wir ei angen.

Dylai warysau a gofod dosbarthu hefyd barhau i fod mewn galw. Roedd danfon nwyddau i’r cartref yn hanfodol i gymaint o bobl yn ystod y cyfnod clo a bydd yn parhau i fod yn ffordd ddefnyddiol i bobl siopa.

Mae’n bosib na fydd sawl peth yn dychwelyd i sut oeddent cynt, fodd bynnag. Er enghraifft, bydd swyddfeydd yn cael eu defnyddio’n wahanol a bydd angen ail-ddylunio gosodiadau yn sylweddol o ganlyniad i fesurau i warchod staff a chyfyngu ar y cyfle i’r feirws ledaenu.

Wrth gwrs, mae rhaid wynebu realiti hefyd. Mae’n bosib nad y gadwyn o fwytai poblogaidd ar y stryd fawr, Cafe Rouge, fydd yr olaf i fynd i’r wal. Yn y tymor byr, bydd landlordiaid, datblygwyr sefydliadol ac eiddo llai, yn cario’r baich. Fodd bynnag, gyda chynllunio gofalus a lefel briodol o ymgysylltiad gan y Llywodraeth, sefydliadau ariannol a busnes, mae hi’n bosib dychwelyd.

Chwarae ein rhan wrth adfer

Yn gyffredinol, mae’r daith yn ôl wedi dechrau, ond, wedi dweud hynny, bydd misoedd yr haf yng Nghymru yn cael eu harwain gan reoli ac atal y feirws.

Mae’n rhaid i’r gallu i addasu fod yn gonglfaen i ddatblygu eiddo yn y misoedd sydd i ddod, ac mae hynny’n un peth y mae pawb yn y diwydiant eiddo yn dda am ei wneud.

Fel gweithwyr proffesiynol ym myd eiddo, mae gennym rôl i’w chwarae wrth adfer – ac wrth gymryd camau gofalus, synhwyrol, gallwn helpu cleientiaid i gyflawni’r nod hwn.

Related Blogs

View All