

Mae swyddfa HCR Law Cymru wedi’i henwebu am ddwy wobr yn y Gwobrau Newyddion Cyfreithiol Cymru 2025 cyntaf, dathliad o ragoriaeth ym musnes y gyfraith yng Nghymru.
Mae swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Twf Busnes y Flwyddyn, sy’n cydnabod cwmnïau sydd wedi cyflawni twf sylweddol. Yn ogystal, mae David King, Partner Cleient Preifat (TEP) a Chyd-bennaeth y Sector Chwaraeon, y Cyfryngau ac Adloniant, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth y Flwyddyn, gwobr sy’n dathlu arweinwyr rhagorol ac ysbrydoledig yn sector cyfreithiol Cymru.
Bydd y seremoni wobrwyo, a gynhelir yng Ngwesty’r Marriott Caerdydd, ddydd Iau 5 Mehefin, yn arddangos cryfder ac effaith y proffesiwn cyfreithiol cyfan yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Hefin Archer-Williams, Pennaeth Swyddfa Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn. Daw ein henwebiad ar gyfer y Wobr Twf Busnes ar ôl ehangu’n swyddfa yng Nghymru yn sylweddol, sydd, ers agor yn 2020, wedi symud i swyddfa fwy yng nghanol dinas Caerdydd ac wedi croesawu dros 60 o gydweithwyr newydd.”
Dywedodd David King: “Mae’n anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y Wobr Arweinyddiaeth. Fel cwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn, rydym yn ymdrechu’n barhaus i ehangu’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cleientiaid a’u hanghenion sy’n cynyddu’n barhaus. Un o’r rhain oedd cyflwyno ein Sector Chwaraeon, Cyfryngau ac Adloniant yn ddiweddar yr wyf yn Gyd-Bennaeth ohono, ac mae’n mynd o nerth i nerth.”
Sut gallwn ni eich helpu chi?
"*" indicates required fields