Cardiff water view

Caerdydd

Rydyn ni’n caru’r llun yma o Fae Caerdydd. Mae’n rhoi gwir ymdeimlad o hanes a bywiogrwydd gyda llawer yn digwydd – yn debyg iawn i’n swyddfa. Wedi’n lleoli yng nghanol dinas Caerdydd, rydym yn dîm sy’n tyfu ac yn cynnwys cyfreithwyr profiadol, arbenigol sy’n frwd dros wasanaethu busnesau a chleientiaid preifat yng Nghymru.

People in an office

Hefin Archer-Williams (CY)

Mae cryfder ac arbenigedd ein tîm yng Nghaerdydd yn golygu ein bod ni’n ‘well gyda’n gilydd’. Mae hyn wedi’i brofi yn ein canlyniadau ar gyfer ein cleientiaid – pan fyddant yn dweud wrthym beth yw eu problemau, rydym yn gwrando’n ofalus ac yn eu helpu i weld o dan yr wyneb, gan helpu gydag atebion sy’n bodloni eu hamcanion. Rwy’n falch o’r gefnogaeth rydym yn ei darparu i’n sylfaen cleientiaid yng Nghymru.

Photo of Cardiff solicitors

Cyfreithwyr Caerdydd

Roedd ein cyfreithwyr wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid ledled Cymru ers degawdau, felly pan agorwyd ein swyddfa yng Nghaerdydd yn 2020, roedd hynny mewn ymateb i alw gan gleientiaid ac mae wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers hynny.

Credwn ein bod yn newid wyneb cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, gan gynnig yr ystod lawn o wasanaethau gan gwmni cyfreithiol o’r 60 Uchaf ynghyd â gwybodaeth leol am y farchnad a chysylltiadau agos. Mae ein tîm o gyfreithwyr arobryn profiadol sy’n tyfu, yn cael eu hadnabod am ansawdd eu gwaith ac, o ganlyniad, rydym wedi cyrraedd rhai safleoedd haen uchaf yn y cyfeiriaduron cyfreithiol lle mae ein cyfreithwyr yn cael eu hadolygu gan eu cleientiaid.

Mae gennym swyddfa fywiog, wedi’i lleoli’n gyfleus yn adeilad eiconig Hodge House yng nghanol dinas Caerdydd, sy’n mwynhau golygfeydd o stadiwm Principality – rydym yn mwynhau hynny, yn enwedig pan fydd Cymru’n ennill.

Cardiff lawyer next to welsh dragon

Darparu cefnogaeth gyfreithiol a chyfraniad cymunedol yng Nghymru

Rydym ar fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) sy’n golygu y gallwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol i’r sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae ein penodiad yn cael ei ystyried gennym fel sêl bendith ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithio a’n hymrwymiad i’n cleientiaid. Rydym hefyd wedi cael ein rhestru fel un o’r tri hyrwyddwr cytundeb gorau yng Nghymru am y 3 blynedd diwethaf yn olynol.

Mae mwy i’n tîm yng Nghaerdydd na gwaith cyfreithiol yn unig. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau lleol ac elusennau ym mhopeth a wnawn. Aeth criw ohonom i’r mynyddoedd i gwblhau Her Tri Chopa Cymru yn haf 2022 a thrwy hynny a’n gweithgareddau codi arian eraill rydym wedi codi dros £6,500 i elusen Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Mae gan ein cleientiaid hyder yn ein cyngor ac maent yn ymddiried ynom i wneud y gwaith. Rydyn ni wir yn gofalu ac yn cefnogi nhw i’w helpu i fod yn llwyddiannus, boed mewn busnes neu’n bersonol.

Cysylltwch â'n cyfreithwyr yng Nghaerdydd heddiw

Cwrdd â’r tîm

Gweld holl dîm Caerdydd

Cydnabod ein gwaith

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Diweddariadau cyfreithiol ac arweinyddiaeth meddwl

Gweld popeth