Article

Gwarchod yng Nghymru i ddod i ben dros dro: goblygiadau o ran cyflogaeth

15 September 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r canllawiau Covid-19 ar gyfer unigolion sy’n cysgodi yng Nghymru am eu bod yn ‘eithriadol o agored i niwed’. Golyga hyn nad oes angen i’r unigolion rheiny gysgodi o ganol mis Awst ymlaen.

Yn ogystal â’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) Cymru, mae canllawiau ychwanegol newydd wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r Rhain yn cynnwys canllawiau ar ddychwelyd i’r gwaith.

Mae’r canllaw yn nodi y gall gweithwyr sy’n eithriadol o agored i niwed bellach ddilyn yr un rheolau a gweddill poblogaeth Cymru, ac y dylent barhau i weithio o gartref os oes modd iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, os nad oes modd iddynt weithio o gartref, gallent ddychwelyd i’r gwaith, cyhyd â bod y gweithle’n ddiogel o ran Covid. O hyn ymlaen, ni fydd modd i weithwyr a allai hawlio Tâl Salwch Statudol am eu bod wedi cael eu cynghori i gysgodi, ei  hawlio.

Beth yw gweithle diogel o ran Covid?

Dylai busnesau helpu eu gweithwyr sy’n eithriadol o agored i niwed ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel, yn y lle cyntaf, drwy gydymffurfio â’r Rheoliadau a’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru.

Mae rhan 3 y Rheoliadau’n ymdrin â lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws mewn safleoedd agored ac yn y gwaith. Yn gryno, mae’n nodi y dylai busnesau gymryd pob cam rhesymol er mwyn sicrhau y gellir cadw pellter o ddau fetr. At hyn, bydd disgwyl i fusnesau gymryd pob cam rhesymol arall, a allai gynnwys:

  • Newid y ffordd y mae’r safle wedi ei osod
  • Rheoli mynedfeydd, llwybrau, grisiau a lifftiau
  • Gosod bariau neu sgriniau
  • Darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Darparu gwybodaeth ar sut i leihau’r perygl a’r siawns o ddod i gysylltiad â Covid-19 yn y gweithle.

Mae’r adran hon hefyd yn nodi y dylai busnesau dalu sylw i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Mae’r canllaw mwyaf diweddar yn nodi pump cam allweddol y dylai busnesau eu cymryd:

  • Gwneud asesiad risg Covid-19
  • Helpu staff i weithio o gartref, pan fydd hynny’n bosibl
  • Cymryd camau er mwyn gwneud yn siŵr y gall unigolion ar eich safle gadw pellter corfforol o ddau fetr, lle mae hynny’n bosibl
  • Rhoi mesurau eraill ar waith er mwyn lleihau’r perygl o ddod i gysylltiad â Covid-19
  • Mynd ati’n frwd i roi Profi Olrhain Diogelu ar waith yn y gweithle

Mae’n bosib y bydd cyflogwyr yn torri’r gyfraith os nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion o ran cadw pellter yn y gweithle.

Mae’r canllaw newydd hefyd yn atgoffa cyflogwyr y dylent gadw anghenion penodol gwahanol grwpiau neu unigolion o fewn y gweithlu mewn cof. Fe’u hatgoffir bod gwahaniaethu, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn erbyn unrhyw un ar sail nodwedd warchodedig megis oed, rhyw, anabledd, hil neu ethnigrwydd, yn erbyn y gyfraith.

Mae’r canllaw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan gyflogwyr gyfrifoldeb penodol at weithwyr anabl a’r rheiny sy’n feichiog. Pe byddai busnes yn methu â dilyn y Rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, mae’n bosib y bydd eu gweithwyr yn chwythu’r chwiban ac yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gall hyn arwain at ymchwiliad ac, o bosib, dirwyon sylweddol.

Wrth i weithwyr sy’n eithriadol o agored i niwed ddychwelyd, mae’n bosib y bydd cyflogwyr yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn. Bydd angen iddynt gadw gwendidau penodol gweithwyr a oedd yn cysgodi mewn cof wrth gynnal asesiadau risg, ac mae’n bosib y bydd angen iddynt ystyried rhoi mesurau ychwanegol yn eu lle er mwyn galluogi’r gweithwyr rheiny i weithio’n ddiogel.

Bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o’r gofynion penodol o ran Covid-19 yn ogystal â’u cyfrifoldeb o dan ddeddfwriaeth gwahaniaethu. Gall hyn gael effaith ariannol sylweddol ar y busnes. Gall dychweliad gweithwyr a oedd yn cysgodi gynyddu’r pwysau ar fusnesau i ystyried cael gwared â swyddi, ac os byddant yn penderfynu gwneud hyn, bydd angen iddynt fod yn arbennig o ofalus a sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr o’r fath.

Pan gyhoeddwyd y canllaw newydd, roedd cyfradd trosglwyddiad Covid-19 yn y cymunedau yn isel. Fodd bynnag, mae’n ddarlun sy’n newid yn barhaus, ac yn ddiweddar mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweld cyfnod clo lleol a chyfyngiadau llymach – sef y cyfyngiad lleol cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru.

Yr unig gyfyngiad penodol newydd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru a Phrif Swyddog Meddygol Cymru o ran gwarchod unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed, yw y dylent weithio o gartref os oes modd iddynt wneud hynny .  Fodd bynnag, mae’r llythyr a gyhoeddwyd gan y Prif Swyddog Meddygol yn egluro’n gwbl glir ei bod yn bosib y bydd gofyn i unigolion sy’n agored i niwed gysgodi unwaith eto pe byddai’r sefyllfa’n newid, er eu bod yn gobeithio gweithredu mewn dull sy’n canolbwyntio mwy ar y perygl i bob unigolyn yn y dyfodol.

Os yw eich busnes yn wynebu problemau o ran creu gweithle diogel o ran Covid, neu os ydych chi’n ystyried cael gwared â swyddi, yna cysylltwch ag Andrea Thomas ar [email protected] neu 07725 240 233.

Related Blogs

View All