Article

Partneriaethau Ffermio – gwnewch yn siŵr fod gennych gytundeb ysgrifenedig

16th June 2020

Mae nifer o ffermydd yn gweithredu ar strwythur busnes partneriaeth, ond heb gytundeb partneriaeth ysgrifenedig neu gytundeb hanesyddol yn unig nad yw’n addas i’r pwrpas bellach. Gall hyn fod yn drychinebus yn bersonol ac yn ariannol i bawb sydd ynghlwm.

Mae partneriaeth o’r fath yn berthynas rhwng pobl sy’n gweithredu busnes yn gyffredin gyda’r nod o wneud elw. Mae partneriaethau ffermio yn hawdd i’w sefydlu, heb yr elfennau ffurfiol sydd eu hangen mewn strwythurau busnes eraill, ac yn aml maent yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd yr uned deuluol yn parhau ac y bydd bob amser yn gweithredu ar sail gyfeillgar a dibynadwy – ond, yn anffodus, nid yw hynny bob amser yn wir. Mae partneriaid yn gadael a rhai newydd yn cyrraedd, gall dulliau busnes personol fod yn wahanol, daw teulu yng nghyfraith ar y gorwel a chaiff plant eu geni! Gall y rhain newid y deinamig cychwynnol ac yn aml, gall arwain at ymgyfreithiad ‘pan fetho popeth arall’.

Er mwyn creu partneriaeth ffermio gadarn, mae angen mewnbwn nid yn unig gan gyfreithiwr ond hefyd cyfrifyddion ac ymgynghorwyr/asiantau ffermio, a all ymdrin â’r holl faterion perthnasol a sicrhau bod pawb yn gwybod lle maen nhw’n sefyll. Wedi’r cyfan, mae partneriaethau yn golygu bod yn berchen ar asedau a chyfoeth sylweddol rhwng partneriaid a theuluoedd ffermio y mae angen eu gwarchod.

Yn absenoldeb cytundeb ysgrifenedig (neu os nad yw’r ddogfen yn ymdrin â phopeth), bydd y darpariaethau ‘diofyn’ dan Ddeddf Partneriaeth 1890, sy’n aml yn anaddas, yn cael eu gorfodi arnoch. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Mae gan y partneriaid hawl i rannu’n gyfartal yng nghyfalaf ac elw’r busnes a rhaid iddynt allu cyfrannu’n gyfartal tuag at golledion (cyfalaf ac incwm) p’un a yw hynny’n briodol ai peidio
  • Bydd marwolaeth neu fethdaliad partner yn sbarduno diddymiad y bartneriaeth
  • Bydd ymddeoliad partner yn sbarduno diddymiad, mewn rhai amgylchiadau
  • Wedi diddymu, nid oes gan y partneriaid sy’n parhau hawl i brynu cyfran y partner sy’n ymadael er mwyn parhau â’r busnes – y sefyllfa ddiofyn yw bod yn rhaid i’r bartneriaeth gael ei dirwyn i ben a gwerthu’r asedau, gyda phob partner yn cael ei dalu o’u cyfran cyfalaf, unwaith y mae’r rhwymedigaethau wedi’u clirio.

Bydd y Ddeddf yn berthnasol, yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb rhwng y partneriaid i’r gwrthwyneb. Felly, mae hi’n bosib amrywio hawliau a dyletswyddau’r partneriaid y naill a’r llall, ac os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig clir, rhaid i bartneriaid ddibynnu ar gyrraedd cytundeb synhwyrol rhyngddynt er mwyn datrys unrhyw anghydfod.

Heb gytundeb ysgrifenedig, efallai na fyddai’n glir pwy sydd ym mherchnogaeth y tir, yr adeiladau, y da byw/marw a’r ffermdai, sy’n wybodaeth yr ydych ei hangen mewn anghydfod, oherwydd mae angen i chi ddeall a yw asedau yn eiddo i’r bartneriaeth ynteu ym mherchnogaeth bersonol y tu allan i’r bartneriaeth. Gall hyn gael goblygiadau treth sylweddol o safbwynt Treth Etifeddiaeth, Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes.

Hefyd, gall cytundeb amlinellu faint o amser ddylai pob partner ei ymrwymo i fusnes y fferm – nid yw’r Ddeddf yn ymdrin â hyn. Mae dibynnu ar y Ddeddf i dynnu partner allan yn llawn anawsterau, lle gall cytundeb partneriaeth ymdrin â diarddel partner os nad ydynt yn tynnu eu pwysau.

Po gliriaf yw’r cytundeb, y lleiaf y sgôp sydd yna am anghydfod neu gamddealltwriaeth, ond mae angen buddsoddiad cychwynnol mewn cyngor proffesiynol i’w gael yn iawn.

Mae cynllunio olyniaeth yn hanfodol hefyd; dylid ystyried ail deuluoedd, cyfoeth a etifeddir o ffynonellau eraill a gwerth uchel ystadau a thir ffermio. Gall ewyllysiau partneriaid gynnwys cyfeiriadau at eu cyfran o’r bartneriaeth, ond dylai telerau unrhyw gytundeb ymdrin â sut ellir trafod y gyfran honno a rhoi mwy o warchodaeth i’r busnes.

Bydd cytundeb cynhwysfawr yn mynd i’r afael â myrdd o faterion busnes – cynllunio olyniaeth, treth, methdalu, ymddeol, hawl tiroedd, rhaniad elw/colled, prisiad (llyfr neu farchnad), priodi, ymrwymiad amser, gwneud penderfyniadau/anghydfodau, a thynnu arian i lawr. Unwaith y bydd gennych un, cofiwch ei adolygu’n rheolaidd, yn enwedig wrth i chi gael asedau newydd.

Fel aelod o’r tîm Materion Amaethyddol a Gwledig (ARA), sy’n rhagweithiol ym musnes ffermio fy nheulu, gallaf eich helpu i barhau i redeg eich busnes ffermio’n llwyddiannus yn ystod yr amseroedd heriol hyn a’ch cefnogi chi gydag unrhyw anghydfodau mewn partneriaethau ffermio.

Am ragor o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â Bryn Thomas ar 07715 060 321 neu ar [email protected]

Related Blogs

View All