Article

Bydd datblygu canolfan ddata yng Nghymru yn sbarduno’r economi, yn ôl ford gron

23 July 2026

Gwneud ymholiad
Data Centre Development

Gallai Cymru fod ar drothwy cyfle economaidd sylweddol yn dilyn dynodi dau barth twf AI mawr – un yng ngogledd Cymru (Ynys Môn) a’r llall yn y de (rhwng Magwyr a Phen-y-bont ar Ogwr).

Yn ganolog i’w llwyddiant, fydd datblygu campysau canolfannau data. Gallai’r rhain greu cadwyni cyflenwi cadarn a chefnogi mwy nag 8,000 o swyddi, gan gyfrannu at fuddsoddiad o tua £10bn ar draws y rhanbarth.

Daeth ford gron arbennig HCR Law, a gynhaliwyd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd dan arweiniad y Partner Lauren Perdikis a’r Cyfarwyddwr Cyfreithiol Gareth Davies, â chynrychiolwyr allweddol o’r diwydiant ynghyd. Roedd y rhain yn cynnwys datblygwyr canolfannau data, buddsoddwyr, gweithwyr proffesiynol a chynghorwyr y sector cyhoeddus o bob cwr o dde Cymru, a fu’n trafod y cyfleoedd a’r pryderon.

Achos cadarn dros fuddsoddi mewn canolfannau data

Mae Cymru wedi bod wrth wraidd y chwyldro diwydiannol ers dwy ganrif gyda’i hanes o fwyngloddio a gweithgynhyrchu. Ond nid yw’r wlad bob amser wedi gallu manteisio yn llawn.

Oes modd i bethau fod yn wahanol y tro hwn? Mae’r achos dros fuddsoddiad ariannol yn gadarn – mae canolfannau data yn ddeniadol i fuddsoddwyr fel ffrydiau incwm sefydlog, hirdymor wedi eu cefnogi gan berthnasoedd cytundebol cryf gyda defnyddwyr. Ystyrir y sector yn faes buddsoddi dibynadwy i gronfeydd pensiwn a buddsoddwyr sefydliadol.

Beth am gefnogaeth y cyhoedd? Gan fod treftadaeth ddiwydiannol Cymru wedi gadael etifeddiaeth amgylcheddol gymysg ar ei hôl, mae’n debygol y gallai cymunedau ledled Cymru gymryd safbwynt mwy pragmatig na rhannau eraill o’r DU.

Maen nhw’n deall ei bod hi bob amser yn debygol y bydd cyfaddawd rhwng adfywio, swyddi a chyfleoedd sgiliau newydd – a’r angen am ddatblygiad strategol.

Ond roedd pawb yn cydnabod fod angen i’r sector godi ymwybyddiaeth o fanteision datblygu cyn i unrhyw farn negyddol ymsefydlu.

Bydd angen uwchraddio seilwaith hanfodol, fel gwelliannau rhwydwaith grid, i sicrhau bod modd adeiladu canolfannau data newydd ar y raddfa sydd ei hangen. A bydd y rhain o fudd i’r gymuned gyfan, nid dim ond y datblygiadau arfaethedig.

Trafododd y ford gron hefyd system gynllunio gwan y DU a all arafu prosiectau am flynyddoedd.

Ond mae arwyddion cadarnhaol bod system gynllunio Cymru yn addasu i geisiadau cynyddol ar gyfer canolfannau data, gyda Chytundebau Perfformiad Cynllunio (PPAs) yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau adnoddau ac amserlenni.

Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch gallu awdurdodau lleol i reoli ceisiadau cymhleth yn effeithlon. Gall cyflwyno cyfundrefn caniatâd seilwaith roi mwy o straen ar adnoddau ac oedi prosesau cynllunio eraill.

Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd buddsoddiad strategol, hirdymor mewn swyddogaethau cynllunio i gynnal gwybodaeth sefydliadol a chefnogi datblygiad cynaliadwy.

Mae datblygu canolfannau data o fudd i’r gymuned

Mae’r sector canolfannau data yn cael ei ystyried i fod yn flaengar o ran darparu cymwysterau amgylcheddol uchel fel rhan o ddatblygiadau arfaethedig.

Mae trwyddedu amgylcheddol, yn enwedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn her sylweddol, gan gymryd mwy na dwy flynedd yn aml ar gyfer cymeradwyo sy’n gysylltiedig ag allyriadau a generaduron wrth gefn.

Ond unwaith eto, mae neges gadarnhaol yma sydd angen ei deall yn ehangach.

Mae diwydiant y canolfannau data ar y blaen i sectorau eraill. Bydd technoleg sy’n esblygu’n gyflym o gymorth – un enghraifft yw bod mwy o ganolfannau data bellach yn gweithredu dolenni dŵr caeedig. Mae hwn yn ffordd cynaliadwy o oeri lle mae dŵr yn cylchredeg yn barhaus o fewn pibellau wedi’u selio i gael gwared â gwres o weinyddion – heb anweddu byth. Mae’r sector hefyd yn nodedig am ei ddefnydd uwch o ynni adnewyddadwy.

Mae capasiti a seilwaith y grid yn parhau i fod yn bryderon pwysig, gyda heriau’n deillio o dirwedd unigryw Cymru a sensitifrwydd gwleidyddol o amgylch llinellau uwchben.

Efallai y bydd Deddf newydd Seilwaith Cymru yn gwella prosesau ar gyfer prosiectau mawr, ond gallai dadleuon gwleidyddol, fel y rhai sy’n ymwneud â llinellau tanddaearol yn erbyn llinellau uwchben, effeithio ar amserlenni.

Ymrwymiadau cadwyn gyflenwi yn golygu mwy o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig lleol

Mae’r drafodaeth am y gadwyn gyflenwi yn tynnu sylw at gymhlethdod adeiladu canolfannau data sy’n cynnwys nifer o gontractwyr a chyflenwyr, gyda galwadau am gyfleoedd cliriach i fusnesau bach a chanolig lleol elwa o brosiectau seilwaith mawr o’r fath.

Mae ymdrechion ar y gweill i ddatblygu siarteri cynaliadwyedd a strategaethau caffael sy’n cynnwys targedau gwariant lleol, ochr yn ochr ag ymgysylltu â busnesau bach a chanolig i wneud y mwyaf o fuddion economaidd rhanbarthol.

Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru

Dywedodd Partner Eiddo HCR Law, Lauren Perdikis: “Roedd pawb o amgylch y bwrdd yn unfrydol mai cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru yw hwn. Oherwydd hyn, dylai datblygwyr a buddsoddwyr a allai feddwl amdanynt eu hunain fel cystadleuwyr roi materion unigol o’r neilltu a chydweithio i gyflwyno stori unedig, ffeithiol i gymunedau a rhanddeiliaid, gan gydbwyso tryloywder â disgwyliadau realistig. Mae hon yn stori newyddion da i Gymru os ydym yn cydweithio.”

Gyda chefnogaeth gan y Senedd, Llywodraeth y DU, buddsoddwyr, datblygwyr a chymunedau lleol, gallai Cymru fanteisio’n llawn ar chwyldro digidol y DU.

Translate to English

Sut gallwn ni eich helpu chi?

"*" indicates required fields

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

Diweddariadau cyfreithiol ac arweinyddiaeth meddwl

Find out more about who HCR Law are in our brochure
Resource
3 June 2026 1 minute read

About Us

Read more
View All