Article

Mae ysgariad ‘dim bai’ ar ei ffordd…. O’r diwedd!

1st September 2021

 

Ar ôl sawl tro yn y ffordd dros y blynyddoedd diwethaf, a sawl oediad, mae deddfwriaeth newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf sy’n galluogi cyplau sy’n gwahanu i ysgaru yn fwy cyfeillgar yn hytrach na chwarae’r gêm draddodiadol o chwilio am fai.

Ers i Ddeddf Achosion Priodasol ddod i rym ym 1973, yr unig ffordd y gallai un parti fwrw ymlaen ag ysgariad fyddai cyflwyno deiseb yn y llys ar y sail bod y briodas wedi ‘chwalu’n anorchfygol’ a oedd yn gorfod cael ei gefnogi gydag un o’r pum ffaith ganlynol: –

  • Godineb
  • Ymddygiad
  • Cefnu
  • Gwahanu am ddwy flynedd gyda chydsyniad y parti arall
  • Gwahanu am bum mlynedd, heb unrhyw gydsyniad.

Mae’r system yma wedi ei ystyried yn aml fel un anfoddhaol am ei fod wedi ei gwneud yn ofynnol i un hanner o’r cwpl i roi bai ar y llall trwy ddefnyddio un o’r ddwy ffaith gyntaf er mwyn bwrw ymlaen ag ysgariad; roedd hyn yn sicr yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth ac yn achosi mwy o chwerwder.

Y dewis arall ydi fod partïon yn gorfod aros o leiaf dwy flynedd, ond yn aml bum mlynedd, i fwrw ymlaen ag ysgariad o dan un o’r ffeithiau eraill. Mae hyn wedi creu rhwystredigaethau a rhwystrau gwahanol gan nad yw cyplau sy’n gwahanu wedi gallu symud ymlaen â’u bywydau yn gyflym.

Yn ymarferol, mae cleientiaid wedi gofyn imi yn aml a allent ddeisebu am ysgariad ar sail ‘gwahaniaethau anghymodlon’ a dro ar ôl tro bu’n rhaid imi gyflwyno’r newyddion drwg fod hwn yn gysyniad ysgariad a fabwysiadwyd yn yr UDA ond nid yn rhan o’n system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.

 

Sut mae newid wedi digwydd?

Cafodd achos Owens v Owens [2018] EWCA Civ (182) / UKSC41 lawer o gyhoeddusrwydd yn y wasg. Roedd Mr a Mrs Owens, yn gwpl yn eu 60au a oedd wedi bod yn briod am dros 30 mlynedd. Roedd Mrs Owens yn anhapus yn ei phriodas ac eisiau symud ymlaen. Teimlai fod ei phriodas wedi rhedeg ei chwrs, ac er nad oedd Mr Owens wedi gwneud unrhyw beth sylweddol o’i le, roeddent wedi symud ar wahân dros amser. Roedd hi wedi cwrdd â rhywun newydd ac eisiau dechrau o’r newydd trwy gael ysgariad.

Cyflwynodd Mrs Owens ddeiseb ysgariad cymharol ysgafn yn y llys, gan nodi bod y briodas wedi torri i lawr yn anorchfygol oherwydd ymddygiad afresymol ei gŵr tuag ati dros gyfnod o amser fel na ellid disgwyl, yn rhesymol, iddi fyw gyda’i gŵr mwyach. Mae’n debyg fod amddiffyniad manwl a thrwyadl Mr Owens i’r ddeiseb yn syndod iddi, ei sail oedd ei fod yn gwadu bod ei ymddygiad yn afresymol, y gallai’r partïon ddal i fyw gyda’i gilydd, ac roedd yn dadlau nad oedd y briodas wedi torri i lawr yn anadferadwy.

Ar ôl cryn gostau cyfreithiol i’r ddwy ochr, penderfynodd y Goruchaf Lys fod Mrs Owens wedi methu â chyrraedd y trothwy angenrheidiol i brofi bod y briodas wedi torri’n anadferadwy ac felly wedi gwrthod ei deiseb am ysgariad.

Roedd nifer yn credu fod cloi Mrs Owens mewn priodas anhapus am lawer mwy o flynyddoedd yn anghyfiawnder ac fe ysgogodd hyn ar alwadau am ddiwygio’r drefn. Wrth gyflwyno Mesur Ysgariad, Diddymu a Gwahanu 2020, y mae disgwyl iddo ddod i rym yn gynnar y flwyddyn nesaf, a hynny ar ôl sawl methiant i gychwyn, cynyddodd y galwadau am newid cyfreithiol ar gyfraith ysgariad fomentwm.

 

Beth yw’r newidiadau o dan y gyfraith newydd?

Mae’r newidiadau allweddol o dan y system newydd fel a ganlyn:

  • Cyflwyno opsiwn newydd ar gyfer ceisiadau ar y cyd am ysgariad lle mae’r partïon yn cytuno bod y briodas wedi torri i lawr yn anadferadwy
  • Gall un ymgeisydd barhau i allu gwneud cais am ysgariad, hyd yn oed pan nad yw’r priod yn cytuno â dileu’r gofyniad i brofi unrhyw ‘fai’ o fewn y cais am ysgariad; y gall y gwrthwynebydd wrthwynebu i hynny o bosibl. Byddai hyn felly agor y drws ar gyfer “ysgariad dim bai”.
  • Newidiadau mewn terminoleg. Bydd yr ymadrodd ‘archddyfarniad nisi’ a’r ‘archddyfarniad absoliwt’ yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan orchmynion ysgariad ‘amodol’ a gorchmynion ysgariad ‘terfynol’. Bydd y deisebydd hefyd yn cael ei adnabod fel yr ymgeisydd yn y dyfodol.
  • Cyflwyno cyfnod isafswm gorfodol newydd o 20 wythnos o ddyddiad y cais cychwynnol i gael gorchymyn ysgariad amodol.
  • Cadw’r cyfnod ailfeddwl chwe wythnos rhwng cael gorchymyn ysgariad amodol a gorchymyn ysgariad terfynol.
  • Bydd y newidiadau uchod yn cael eu hymestyn i achosion sy’n ymwneud â diddymu partneriaeth sifil ac achosion gwahanu barnwrol.

Yn amodol ar unrhyw oedi pellach, mae disgwyl i’r newidiadau i’r gyfraith ysgariad gyfredol ddod i rym ar 6 Ebrill 2022.

Related Blogs

View All