Article

Beth yw ymddiriedolaeth budd oes ac a ddylwn i gynnwys un yn fy ewyllys?

19th October 2020

Bydd cyplau, p’un a ydynt yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n cyd-fyw, fel arfer yn gwneud ewyllysiau gan adael eu holl asedau i’w gilydd pan fydd y cyntaf ohonynt yn marw ac wedi hynny i’w plant pan fydd yr ail yn marw. Os nad oes plant, byddant fel arfer yn dewis perthnasau, ffrindiau neu elusen eraill.

Er nad oes unrhyw beth o’i le ar y strwythur hwn, gall weithiau achosi problemau ac arwain at ganlyniadau anfwriadol yn y dyfodol.

Ystyriwch, er enghraifft, gwpl gyda phlant lle mae un partner yn marw ac mae’r person sydd ar ôl sy’n etifeddu popeth, yn mynd ymlaen i ailbriodi neu ddechrau perthynas newydd. Yna gall y person hwnnw adael ei ystâd (neu gyfran sylweddol ohoni) i’w briod neu bartner newydd fel bod y plant yn cael ychydig iawn neu ddim byd o gwbl hyd yn oed.

Yn yr un modd, os bydd un partner yn marw a’r person arall sy’n etifeddu popeth yn mynd ymlaen i fod angen gofal, mae’n bosib y gall yr ystâd gyfan gael ei defnyddio i dalu am y gofal hwnnw. Unwaith eto byddai’r plant yn cael eu gadael heb ddim neu’n sylweddol llai nag y gallai fod wedi digwydd fel arall.

Er mwyn osgoi’r sefyllfaoedd tebyg i hyn efallai y bydd cyplau yn ystyried cynnwys ymddiriedolaeth budd oes yn eu hewyllysiau, i ddod i rym pan fydd y cyntaf ohonynt yn marw.

Yn syml, mae ymddiriedolaeth budd oes yn rhoi hawl i’r partner sy’n goroesi elwa o ystâd eu partner ymadawedig am weddill ei oes neu hoes nes iddynt ailbriodi. Yr elfen allweddol yw nad yw’r partner sy’n goroesi yn berchen ar ystâd y llall ac, er bod ganddo’r defnydd ohoni, ni allant ei rhoi i ffwrdd yn ystod eu hoes na’i rhoi yn ei ewyllys; ni ellir ei ddefnyddio chwaith i dalu costau gofal.

Pan fydd yr ail bartner wedyn yn marw neu’n ailbriodi, bydd yr ymddiriedolaeth budd oes yn dod i ben a bydd ystâd y partner cyntaf yn cael ei drosglwyddo i’r plant. Felly mae’r ymddiriedolaeth yn ceisio taro cydbwysedd rhwng sicrhau, pan fydd un partner yn marw, y darperir ar gyfer y llall yn ddigonol, gan gadw’r ystâd ar yr un pryd er budd y plant. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig pan mae ail briodasau a phlant o berthynas flaenorol.

Yn gyffredinol, bydd cyplau yn ystyried cynnwys ymddiriedolaeth budd oes yn eu hewyllysiau mewn perthynas â chartref y teulu yn unig, gyda balans yr ystâd (e.e. cyfrifon banc, buddsoddiadau ac eiddo personol) yn cael eu trosglwyddo i’r partner sy’n goroesi yn rhydd o unrhyw ymddiriedolaeth. Os yw hynny’n wir, bydd gan y partner sy’n goroesi yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo am weddill ei oes, neu tan ailbriodi, gyda’r eiddo yn y pen draw yn cael ei drosglwyddo i’r plant.

Wedi dweud hynny, mae’n bosib i asedau eraill, heblaw cartref y teulu, gael eu gwneud yn rhan o’r ymddiriedolaeth. Pan mae asedau fel arian parod a buddsoddiadau yn rhan o ymddiriedolaeth budd oes, bydd gan y partner sy’n goroesi hawl i’r incwm net o’r asedau hynny. Fodd bynnag, os nad yw’r incwm net yn ddigonol i alluogi’r partner hwnnw i gynnal ei safon bywyd, fel rheol bydd pŵer i symud cyfalaf iddo efo neu iddi hi os bydd angen.

I lawer o gyplau, mae’r gallu i sicrhau diogelwch ariannol ei gilydd a pharhau i reoli eu hasedau ar ôl marwolaeth, yn un o’r prif resymau dros gynnwys ymddiriedolaeth budd oes yn eu hewyllysiau. Er gwaethaf y fantais bwysig yma, nid yw’r drefn yma yn addas i bawb gan fod rhai anfanteision sy’n gysylltiedig.

Er enghraifft, fel gydag unrhyw ymddiriedolaeth, rhaid i’r ewyllysiau benodi ymddiriedolwyr i weinyddu’r ymddiriedolaeth budd oes. Gall y partner sydd wedi goroesi fod yn ymddiriedolwr, ond ni allant fod yr unig ymddiriedolwr ac mae’n gyffredin i benodi un neu ddau o berthnasau neu ffrindiau eraill i weithredu fel ymddiriedolwyr ochr yn ochr â nhw. Weithiau gall hyn gael ei ystyried i fod yn rhy gaeth ar ran y partner sy’n goroesi, gan na allant wneud penderfyniadau yn annibynnol mewn perthynas â’r ymddiriedolaeth budd oes gan fod yn rhaid i’r holl ymddiriedolwyr gytuno gyda’i gilydd. Yn aml mae’n bosib i’r partner sy’n goroesi deimlo rhywfaint o ddrwgdeimlad nad oes ganddo ef neu hi ryddid i ddelio ag asedau partner sydd wedi marw heb i’r ymddiriedolwyr eraill gymryd rhan.

Mater posib arall yw mewn perthynas â ffioedd gofal. Er y byddai’n well gan y mwyafrif ohonom beidio â defnyddio ein hasedau i dalu am ofal, mae’r ffaith ein bod yn berchen ar asedau yn y lle cyntaf yn golygu bod gennym yn gyffredinol fwy o ddewis a rheolaeth dros y math a’r safon o ofal rydym yn ei dderbyn. Pan mae ymddiriedolaeth budd oes mewn lle, gall y ffaith na all y partner sy’n goroesi cael gafael ar gyfalaf y partner sydd wedi marw effeithio ar y math o ofal y gallant ei fforddio.

Mae cynnwys ymddiriedolaeth budd oes yn eu hewyllysiau neu beidio yn rhywbeth y dylai cyplau feddwl yn ofalus amdano. Nid oes ateb cywir nac anghywir ac fel rheol bydd yn dibynnu ar flaenoriaethau’r cwpl, eu hasedau a’u hamgylchiadau teuluol. Ni ddylid cynnwys ymddiriedolaeth budd oes mewn ewyllys dim ond ‘er mwyn gwneud’ hynny, ond ni ddylai fod yn rhywbeth sy’n cael ei ddiystyru chwaith – mae’n syniad da trafod gyda chyfreithiwr i drafod y manteision a’r anfanteision yn fanwl fel y gall y cwpl wneud penderfyniad ynghylch beth fydd yn gweithio orau iddyn nhw.

Related Blogs

View All