

Gan adeiladu ar flwyddyn gref o dwf a recriwtio, mae HCR Law wedi sicrhau safleoedd newydd yn rhestr rancio Legal 500,a hynny mewn dwsin o feysydd. Yn dilyn ymchwil ymhlith cleientiaid a chyfoedion, mae’r cwmni wedi sicrhau ei safle uchaf eto, gyda 18 o wobrau haen un.
Ymhlith y safleoedd haen uchaf mae dau newydd ar gyfer Trosedd a Thwyll ac Iechyd a Diogelwch, y ddau yn East Anglia. Mae swyddfa Caergrawnt y cwmni hefyd yn dathlu cydnabyddiaeth newydd am Ansolfedd ac Adferiad ochr yn ochr â 12 safle arall. Mae Kathryn Gilbertson yn derbyn canmoliaeth arbennig fel ‘partner sy’n sefyll allan’ mewn dwy restr ar wahân yn Neuadd yr Anfarwolion (Hall of Fame).
Yng Nghymru, mae’r tîm yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda’r tîm Chwaraeon yn ennill ei le am y tro cyntaf. Mae’r partneriaid Wayne Beynon a Hefin Archer-Williams, ill dau yn cael eu cydnabod am eu harbenigedd yn y maes hwn, gyda Wayne hefyd yn cael ei gydnabod fel Partner Arweiniol. Mae twf a datblygiad cyflym y tîm wedi amlygu ymhellach mewn tair rhestr ychwanegol, gan gynnwys safle haen dau ar gyfer Amaethyddiaeth ac Ystadau, ochr yn ochr â safle cyfatebol Partner Arweiniol ar gyfer Rory Hutchings. Mae arbenigedd y tîm ehangach yn cael ei amlinellu gan gadw safleoedd haen un mewn TG a Thelegyfathrebu, yn ogystal ag Eiddo Deallusol.
Mae swyddfa HCR yn Llundain wedi derbyn dwy gydnabyddiaeth newydd, ynghyd â chadw anrhydeddau o’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys yn y categori Partneriaeth Gorfforaethol a Masnachol, lle cafodd Robert Capper a Rachel Khiara eu cydnabod. Mae’r safleoedd newydd yn cynnwys y cwmni sy’n cael ei ddynodi’n ‘Gwmni i’w Wylio’ yn y maes practis Cleientiaid Preifat. Mae’r gydnabyddiaeth wedi arwain at y tîm Cleient Preifat yn cael ei restru ar draws chwe rhanbarth gwahanol am eu gwaith ar dreth bersonol, ymddiriedolaethau ac ystadau, sy’n cynnwys dau safle haen un a chydnabyddiaeth yn Neuadd yr Anfarwolion ar gyfer Bernadette O’Reilly.
Mae’r tîm Cyflogaeth a Mewnfudo wedi derbyn canmoliaeth hefyd, gan gael eu cydnabod fel ‘Cwmni i’w Wylio’ yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Birmingham, yn ogystal â chael cydnabyddiaeth haen pedwar yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Mae arbenigwyr Cyflogaeth a Mewnfudo, Lynne Adams, Michael Stokes, ac Omer Simjee yn cael eu hargymell, tra bod y tîm wedi llwyddo i gadw ei safle haen un yn Ne Orllewin Lloegr, ynghyd â dau safle haen un yn East Anglia.
Mae rhanbarth De-orllewin Lloegr yn parhau i fod mewn safle uchel ar draws ystod o wasanaethau gan gynnwys Corfforaethol a Masnachol, Eiddo Masnachol, Addysg ac Ymgyfreitha Masnachol. Mae’r tîm Corfforaethol a Masnachol yn swyddfa Thames Valley wedi cynyddu ei safle i haen dau yn ogystal â safle haen pedwar newydd mewn Ymgyfreitha Eiddo.
Mae rhestrau 2025 yn atgyfnerthu llwyddiant strategaeth y cwmni wrth recriwtio mewn meysydd allweddol i ategu a gwella’r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu.
Ochr yn ochr â rancio’r tîm, roedd HCR wedi ei gydnabod am 143 cyfreithiwr unigol, a 32 o’r rheiny yn cael eu nodi fel Partneriaid Arweiniol. Roedd y cyfeiriadur hefyd yn cydnabod 10 o Ymgynghorwyr Arweiniol, 16 o Bartneriaid y Genhedlaeth Nesaf ac 8 cydweithiwr sydd bellach wedi’u rhestru yn Neuadd yr Anfarwolion.