fbpx
HCR Law Events

1 September 2021

Gadewch i’r frwydr gychwyn!

 

Bydd Ras Rafft Trefynwy yn frwydr rhwng y Cymry a’r Saeson eleni, o leiaf i dimau HCR sy’n cymryd rhan.

Gyda thimau o swyddfeydd Caerdydd a Dyffryn Gwy yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sul (5 Medi), mae’r ddau yn paratoi ar gyfer y cwrs 6.5 milltir sy’n cychwyn am hanner dydd o glwb rhwyfo Trefynwy ac yn gorffen yn Whitebrook. Bydd llawer o’r ymdrech er budd Gofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd.

Dyma’r 55fed tro i’r ras, sy’n cael ei rhedeg gan Glwb Rotari Trefynwy, gael ei chynnal, mae HCR yn noddi a chymryd rhan yn rheolaidd, gydag arbenigedd cadarn mewn adeiladu rafftiau wedi’i sefydlu erbyn hyn.

Eleni, mae gan dîm Caerdydd (Andrea Thomas, Bryn Thomas (capten), Corinne Sri-Widada, Daniel Barnard, David King, Delyth Murphy, Matthew LoaderRobin Koolhoven) fwy o rwyfwyr na thîm Dyffryn Gwy.

Ond, mae gan y rhwyfwyr o’r Rhosan, dan arweiniad Arpinder Dhillon o sylfaen gadarn (Jenny Staples, Rebecca Welton, Louise Price, Clare Day ac Esther Stirling, gyda’r eilyddion Ann Morgan, Cami Apperly, a Sasha Nelson), fantais o rafft sydd wedi sefyll prawf amser.

Yr hyn sy’n bwysig go iawn yw y gall dau dîm godi dwywaith y swm o arian; felly ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/hcrwvandcardiff a chyfrannwch i gefnogi gwaith yr hosbis.

Share this article on social media

About the Author
Hefin Archer-Williams, Partner (FCILEx), Head of Cardiff Office

view my profile email me

Want news direct to you?

sign up


Drop-in sessions for In-House Lawyers

find out more

Got a question?

Send us an email

x
Newsletter HCR featured image

Stay up to date

with our recent news

x
LOADING