News

Cyfreithwyr yn dychwelyd adre i Gaerdydd

23rd January 2020

Yn dilyn galw cyson ein cleientiaid yng Nghymru, mae’r cwmni Harrison Clark Rickerbys, sydd bellach ymhlith y 100 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU, yn sefydlu tîm o 12 yng Nghaerdydd gan agor swyddfa Gymreig gyntaf y cwmni. Bydd y swyddfa yn agor ar 3ydd Chwefror 2020.

Gyda phartneriaid sy’n arbenigo mewn cyfraith technoleg, eiddo deallusol, ymgyfreitha a datrys anghydfod, cyflogaeth, amaeth, cyfraith teulu ac eiddo tiriog, bydd y tîm yn cynnig gwasanaethau i fusnesau yn ogystal ag unigolion.

Dywedodd Hefin Archer-Williams, pennaeth y swyddfa: “Rydym wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers rhai blynyddoedd bellach ac mae’r amser wedi dod i ni sefydlu tîm yma – i ni, mae’n gam wych gan fod llawer ohonom yn dychwelyd i’n gwreiddiau, ac i’n cleientiaid, mae’n golygu ein bod ni’n agosach fyth.”

“Bydd gweithio ar draws Cymru, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, yn llawer haws wedi i ni sefydlu yng Nghaerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ymhellach.”

Bydd wyth partner arall yn y tîm – Nicola McNeely, pennaeth cyfraith technoleg y cwmni sydd hefyd yn gyfarwyddwraig anweithredol Business in Focus; arbenigwyr y maes rheoleiddio Bryn Thomas ac Aled Owen; Chris Mayers sy’n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yn gyfryngwr; Clare Day sy’n arbenigo mewn materion cyllid eiddo tiriog; cyfreithiwr cyfraith teulu James Grigg; a David King sy’n arbenigwr ym maes ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau.